Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Pobl, blaenoriaethau, partneriaeth

Heddiw cyflwynodd y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, Andrew Davies, Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2010-11, gan ddweud bod hyn yn golygu “gwneud penderfyniadau anodd” ond y byddai’n gwella ansawdd bywyd pobl Cymru. Aeth yn ei flaen i alw ar bobl ati weithio fel “Tîm Cymru” i sicrhau cymaint o werth ag y bo modd o’r bunt Gymreig.
Dydd Llun 05 Hydref 2009

Meddai’r Gweinidog:

“Mae pobl, blaenoriaethau a phartneriaeth wrth wraidd y Gyllideb Ddrafft hon. Rydym yn benderfynol o wella ansawdd bywyd pobl ym mhob cwr o Gymru, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed a’r lleiaf breintiedig. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi gwneud cynnydd da o ran cyflawni addunedau Cymru’n Un.

“Trwy gydweithio â’n partneriaid mewn ysbryd o gydgyfrifoldeb rydym wedi ceisio helpu Cymru i ddod trwy’r dirywiad economaidd byd-eang. Trwy ein huwchgynadleddau economaidd, rydym wedi datblygu model cryf o weithio mewn partneriaeth i wella gwasanaethau.

“Rwyf wedi dweud yn barhaus, na allwn ddisgwyl, yn ystod y blynyddoedd nesaf, gweld y cynnydd sylweddol a gafwyd mewn gwariant cyhoeddus yn ystod y degawd diwethaf. Byddwn yn parhau i wneud y dewisiadau anodd sydd eu hangen, a byddwn yn parhau i weithredu ar ddull Tîm Cymru ar draws y sector cyhoeddus er mwyn sicrhau cymaint o werth ag y bo modd o’r bunt Gymreig.

“Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio ein cyllideb yn effeithiol, yn effeithlon ac yn arloesol er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Dyma’r gwasanaethau y mae pobl ledled Cymru, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed a’r lleiaf breintiedig, yn dibynnu arnynt.

“Mae’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2010-11 yn nodi sut y gallwn barhau i wella’r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnynt. Er bod cyllidebau wedi crebachu, bydd cyfanswm y dyraniadau refeniw i adrannau yn cynyddu o ryw £287 miliwn rhwng 2009-10 a 2010-11. Rhaid cydnabod hefyd, serch hynny, fod cynigion y Gyllideb ddrafft yn adlewyrchu’r ffaith bod ein cyllideb gyffredinol wedi lleihau yn sgil penderfyniadau ar lefel y DU. Maen nhw hefyd yn adlewyrchu ein penderfyniad i wario ychydig o’r cyfalaf a glustnodwyd ar gyfer 2010-11 eleni ac y llynedd, er mwyn rhoi hwb economaidd ar yr adeg pan oedd yr angen mwyaf amdano.

“Er mwyn byw o fewn cyllidebau tynnach mae gennym ddull sy’n seiliedig ar sicrhau effeithlonrwydd mewn gwahanol feysydd – sef canolbwyntio ar leihau costau a sicrhau gwell gwerth am ein buddsoddiad yn hytrach na lleihau gwasanaethau.

“Trwy wneud y penderfyniadau angenrheidiol rydym hefyd wedi gallu creu cyfle i ddyrannu cyllid yn strategol. Er enghraifft, £50 miliwn ar gyfer newidiadau strwythurol yn y gwasanaeth iechyd ac i ateb y galw cynyddol am wasanaethau iechyd o ganlyniad i gwtogi’r rhestrau aros; £34 miliwn i gefnogi gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol; rhyw £20 miliwn i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc; a £4 miliwn er mwyn gwneud rhagor o waith ymchwil a datblygiad ar y cyd â busnesau.

“Trwy wneud yn fawr o’r holl adnoddau sydd gennym gallwn barhau i fwrw ymlaen â’n hagenda yn Cymru’n Un – gan helpu i ddiogelu a gwella gwasanaethau cyhoeddus sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.”

5 Hydref 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 05 Hydref 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i