Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn buddsoddi mewn prosiectau i dorri costau

Mae Andrew Davies, y Gweinidog dros Gyllid a Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi cyhoeddi manylion prosiectau’r Gronfa Buddsoddi i Arbed a fydd yn darparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol ac effeithlon.
Dydd Gwener 16 Hydref 2009

Dywedodd y Gweinidog:  

“Ers y cyhoeddiad a wnes ym mis Mai, mae’r diddordeb yn y gronfa newydd, Buddsoddi i Arbed, sy’n werth £60 miliwn, wedi bod yn eang, gyda nifer o ymholiadau a thros 100 mynegiant o ddiddordeb yn cael eu cyflwyno i’w hystyried.”

Wrth gyhoeddi’r prosiectau llwyddiannus cyntaf dywedodd y Gweinidog:

“Rwy’n falch fod cryn ddiddordeb wedi bod oddi wrth sefydliadau sy’n ceisio am gymorth o’r gronfa newydd hon. Mae angen i ddarparwyr gwasanaeth cyhoeddus ddod o hyd i ffyrdd mwy craff o weithio a bydd y gronfa hon yn eu helpu i weithredu newidiadau sy’n arwain at ryddhau arbedion effeithlonrwydd. Rwy’n falch i gyhoeddi y bydd 17 o brosiectau yn cael cymorth ar yr adeg hon a thua £8.2 miliwn yn cael ei fuddsoddi o’r gronfa. Mae rhagor o brosiectau’n cael eu hystyried ac rwyf hefyd yn bwriadu agor y gronfa eto i geisiadau newydd ym mis Tachwedd.

“Mae angen i gyllidebau tynnach gael eu llunio o gwmpas effeithlonrwydd – mae hynny’n golygu canolbwyntio ar wella gwasanaethau ac ar yr un pryd lleihau costau a sicrhau’r gwerth gorau posibl ar gyfer y bunt Gymreig. Mae’r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn helpu i ysgogi cyflwyno dulliau newydd, mwy effeithlon o weithio, ac felly’n cefnogi darparu arbedion effeithlonrwydd. Rwy’n annog cyrff cyhoeddus i fanteisio’n llawn ar y Gronfa hon er mwyn eu helpu i sicrhau newid sy’n fanteisiol.”

Dyma rai o’r prosiectau sy’n cael eu cymeradwyo:

  • Un ystafell reoli teledu cylch cyfyng fodern ar gyfer Gogledd Cymru  - prosiect cydweithredol sy’n cynnwys y 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru lle bwriedir sicrhau arbedion effeithlonrwydd blynyddol o £450,000.
  • System dreuliau electronig integredig ar y we ar gyfer GIG a fydd yn disodli’r system gyfredol sy’n seiliedig ar bapur ac yn rhyddhau arbedion o  £98,000 y flwyddyn – bydd y cam cyntaf yn cael ei weithredu gan Bartneriaeth Cymorth Busnes Gogledd Cymru.
  • Paratoi cynigion manwl ar gyfer uno posibl rhwng Cyngor Sir Powys a Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys, lle ystyrir y bydd arbedion effeithlonrwydd o £1 – £2.5 million yn bosibl.
  • Gweithredu offer arloesol e-Fasnach cyfnewidcymru yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, gan symud yr awdurdod i ffwrdd o’r system draddodiadol sy’n seiliedig ar bapur i drefniant yr 21ain ganrif, a allai sicrhau £8 miliwn o arbedion effeithlonrwydd dros bum mlynedd. Mae sgôp i sefydliadau eraill fabwysiadu cyfnewidcymru lle gall cymorth o’r gronfa  Buddsoddi i Arbed fod ar gael.
  • Gwasanaeth i atal plant sy’n derbyn gofal o ardal Abertawe rhag cael eu lleoli y tu allan i’r ardal a sicrhau bod y rhai sydd eisoes y tu allan i’r ardal yn cael eu dychwelyd yno’n gyflym – rhagwelir y bydd y cynnig yn gwella’r gwasanaeth presennol ac yn dod ag effeithlonrwydd o £147,000 fesul lleoliad.

16 Hydref 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Gronfa Buddsoddi i Arbed

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 16 Hydref 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i