Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gyllideb Derfynol i ddarparu canlyniadau gwell ar gyfer cyfnod anoddach

Mae'r Cynulliad wedi cytuno ar Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cynullid Cymru. Ei nod yw helpu pobl, cymunedau a busnesau drwy'r dirwasgiad byd eang.
Dydd Mawrth 08 Rhagfyr 2009

Dywedodd Andrew Davies, y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus fod y Gyllideb yn deillio o rai penderfyniadau anodd ond y byddai'n diogelu gwasanaethau i bobl agored i niwed.

Cyhoeddodd y Gweinidog bapur polisi hefyd i gyd-fynd â'i araith ar y Gyllideb. Enw'r papur yw 'Canlyniadau Gwell ar gyfer Cyfnod Anoddach' ac mae'n nodi sut y bydd Llywodraeth y Cynulliad, yng ngham nesaf ei rhaglen gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn cydweithio â gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid cymdeithasol i barhau i drawsnewid effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus a hybu arloesedd.

Meddai Andrew Davies:

"Mae'r Gyllideb wedi bod yn destun proses craffu gadarn a heriol ac rwy'n ffyddiog y bydd yn sicrhau canlyniadau gwell i Gymru yn y cyfnod heriol sydd o'n blaen.

"Fe wnaethom ni fabwysiadu meddylfryd strategol yn ein cynigion ar gyfer y Gyllideb Ddrafft, er mwyn diogelu a chynnal y gwasanaethau cyhoeddus allweddol y mae pobl yn dibynnu arnynt a pharhau â'n gwaith partneriaeth llwyddiannus i helpu Cymru i ddod drwy'r dirywiad economaidd byd eang.

"Drwy wneud y penderfyniadau anodd sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau arbedion effeithlonrwydd, rydym wedi creu'r cyfle i ddyrannu cyllid refeniw newydd o'n cronfeydd. Cafodd y mesurau a fydd yn mynd i'r afael â'r heriau economaidd sydd o'n blaen flaenoriaeth ar gyfer y dyraniadau strategol newydd.

"Mae hyn yn cynnwys £20 miliwn i fynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc a £4 miliwn i gefnogi gwaith ymchwil a datblygu ychwanegol ar y cyd â busnesau.

"Mae prosesau craffu a thrafodaethau ers cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft wedi helpu i gadarnhau ein bod wedi mabwysiadu’r meddylfryd cywir, ac felly mae'r Gyllideb Derfynol a gyflwynwyd heddiw yn cyd-fynd yn agos â'r Gyllideb Ddrafft.

"Mae hwn yn gyfnod o ansicrwydd - ond beth bynnag fydd yn digwydd yn y dyfodol, byddwn yn parhau i ymroi i waith partneriaeth. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid o fyd busnes, yr undebau llafur a'n partneriaid cymdeithasol drwy'r Uwchgynadleddau Economaidd, gan gymryd camau ymarferol i helpu unigolion a busnesau drwy'r dirywiad economaidd byd eang presennol.

"Mae angen inni fynd ati fel ‘Tîm Cymru’ i fynd i'r afael â'r her y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn ei hwynebu dros y blynyddoedd nesaf wrth ymateb i'r pwysau sydd ar gyllid cyhoeddus, a'r angen i sicrhau canlyniadau gwell er budd dinasyddion a chymunedau Cymru gyda'r un faint, neu lai, o adnoddau. Mae hyn yn gofyn am gymryd camau, yn awr ac yn barhaus, i drawsnewid effeithlonrwydd a dulliau o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Oherwydd hyn, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal Uwchgynhadledd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y flwyddyn newydd i gynllunio a mabwysiadu meddylfryd 'Tîm Cymru' ar gyfer yr heriau yr ydym yn eu hwynebu o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

"Mae'r Gyllideb Derfynol a gyhoeddwyd heddiw yn dilyn rhai penderfyniadau anodd, sy'n adlewyrchu'r amgylchiadau heriol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw ar hyn o bryd. Bydd yn darparu'r adnoddau sydd eu hangen i barhau i roi'r agenda Cymru'n Un ar waith – gan helpu i ddiogelu a gwella'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, a helpu pobl, cymunedau a busnesau drwy'r dirwasgiad byd eang."

8 Rhagfyr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 08 Rhagfyr 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i