Yn ystod taith ‘Eich Gwasanaethau, Eich Llais’, bydd y Gweinidog yn ymweld â lleoliadau ar hyd a lled Cymru i glywed barn pobl leol am sut i ddarparu ac i wella gwasanaethau rheng flaen yn sgil cwtogi ar gyllidebau.
Mae’r daith yn rhan o strategaeth ehangach Llywodraeth y Cynulliad i wella effeithlonrwydd ar draws y sector cyhoeddus cyfan ac mae’n dilyn taith ddiweddar Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a fu’n ymweld â gwasanaethau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes, hefyd yn ymweld â darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
Mae Carl Sargeant yn awyddus i gwrdd â phobl sydd â phrofiad ymarferol o’r gwasanaethau ac o ganlyniad, sydd mewn sefyllfa wych i roi eu barn ar y gwasanaethau hyn ar sail eu profiad a’u gwybodaeth.
“Dyw’r ffaith bod y sector cyhoeddus yn wynebu toriadau dros y blynyddoedd nesaf ddim yn gyfrinach” meddai’r Gweinidog. “Bydd diogelu a gwella ein gwasanaethau gyda chyllidebau llai yn her.
“Mae’n rhaid i ni gynllunio ymlaen llaw a pharatoi ar gyfer gwneud penderfyniadau anodd fel y gallwn ni barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a gwasanaethau sy’n cael eu gwerthfawrogi. Mae’n rhaid i ni gydnabod na allwn ni barhau fel yr ydym ni ac mae’n rhaid i ni wneud pethau’n wahanol.
“Bydd cydweithio yn allweddol i wneud i hyn ddigwydd. Dyw hyn ddim yn rhywbeth y gall Llywodraeth y Cynulliad ei wneud ar ei phen ei hun. Rwyf am glywed am yr heriau sy’n wynebu’n gwasanaethau, yn gyffredinol ac yn lleol a’r hyn y gallwn ni ei wneud i oresgyn yr heriau hyn.
“Rydym am i ddarparwyr gwasanaethau, ar bob lefel o’r gweithlu, defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd fod yn rhan o hyn a dweud wrthym ni beth maen nhw’n feddwl y dylai gael ei wneud. Mae gan y bobl hyn brofiad o’n gwasanaethau felly, mae’n bwysig eu bod yn rhan o’r gwaith o baratoi ar gyfer y dyfodol.”
Un o’r lleoliadau cyntaf yr ymwelir ag ef ar y daith fydd uned casglu gwastraff ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yno, caiff y Gweinidog gyfle i gwrdd â’r staff a chlywed eu barn hwy am sut y gellir gwella’r gwasanaeth. Hefyd, bydd y Gweinidog yn ymweld â chanolfan gelfyddydau ym Mhont Tyweli sy’n darparu gweithgareddau hamdden ac adloniant i bobl hŷn mewn ardaloedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin a bydd y Gweinidog yn ymuno â heddwas wrth ei waith yn Llandrindod hefyd.
Yn ddiweddarach ar y daith, bydd y Gweinidog yn ymweld â safle RAF y Fali yn Ynys Môn i weld sut mae teuluoedd y rheini sydd yn y lluoedd arfog yn credu y dylid gwella gwasanaethau lleol er mwyn cwrdd â’u hanghenion hwy. Hefyd, mae’r Gweinidog yn awyddus i glywed gan bartneriaid o’r trydydd sector a bydd yn ymweld â nifer o gyrff a mudiadau gwirfoddol, gan gynnwys Swyddfa Gwirfoddolwyr y Fro yn y Bari.
Yn ystod yr ymweliadau, mae’r Gweinidog yn awyddus i drafod sut gellir gwella gwasanaethau lleol fel eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau lleol a’r hyn y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru ei wneud i helpu.
Ychwanegodd Carl Sargeant
“Mae’n rhaid i ni ddeall beth mae cymunedau lleol am ei weld yn cael ei ddarparu fel blaenoriaeth ac yna penderfynu sut y gallwn ni gyflawni hyn ar lefel leol.
“Mae’r heriau sy’n ein hwynebu yn galed ond trwy gydweithio, gallwn oresgyn yr heriau hyn a pharhau i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf lle mae eu hangen fwyaf.
“Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn ystod y daith hon. Dim ond trwy gydweithio y gallwn ni ddiwallu’r heriau sy’n ein hwynebu.”











