Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael dweud eu dweud

Heddiw bydd Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, yn dechrau ar ei daith o amgylch Cymru i glywed barn defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ynghylch sut i ddiogelu gwasanaethau yn y cyfnod heriol sy’n ein hwynebu.
Dydd Llun 06 Medi 2010
Y Gweinidog yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael dweud eu dweud
Y Gweinidog yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael dweud eu dweud

Yn ystod taith ‘Eich Gwasanaethau, Eich Llais’, bydd y Gweinidog yn ymweld â lleoliadau ar hyd a lled Cymru i glywed barn pobl leol am sut i ddarparu ac i wella gwasanaethau rheng flaen yn sgil cwtogi ar gyllidebau.

Mae’r daith yn rhan o strategaeth ehangach Llywodraeth y Cynulliad i wella effeithlonrwydd ar draws y sector cyhoeddus cyfan ac mae’n dilyn taith ddiweddar Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a fu’n ymweld â gwasanaethau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.  Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes, hefyd yn ymweld â darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
 
Mae Carl Sargeant yn awyddus i gwrdd â phobl sydd â phrofiad ymarferol o’r gwasanaethau ac o ganlyniad, sydd mewn sefyllfa wych i roi eu barn ar y gwasanaethau hyn ar sail eu profiad a’u gwybodaeth.

“Dyw’r ffaith bod y sector cyhoeddus yn wynebu toriadau dros y blynyddoedd nesaf ddim yn gyfrinach” meddai’r Gweinidog.  “Bydd diogelu a gwella ein gwasanaethau gyda chyllidebau llai yn her.

“Mae’n rhaid i ni gynllunio ymlaen llaw a pharatoi ar gyfer gwneud penderfyniadau anodd fel y gallwn ni barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a gwasanaethau sy’n cael eu gwerthfawrogi.  Mae’n rhaid i ni gydnabod na allwn ni barhau fel yr ydym ni ac mae’n rhaid i ni wneud pethau’n wahanol.

“Bydd cydweithio yn allweddol i wneud i hyn ddigwydd.  Dyw hyn ddim yn rhywbeth y gall Llywodraeth y Cynulliad ei wneud ar ei phen ei hun.  Rwyf am glywed am yr heriau sy’n wynebu’n gwasanaethau, yn gyffredinol ac yn lleol a’r hyn y gallwn ni ei wneud i oresgyn yr heriau hyn.

“Rydym am i ddarparwyr gwasanaethau, ar bob lefel o’r gweithlu, defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd fod yn rhan o hyn a dweud wrthym ni beth maen nhw’n feddwl y dylai gael ei wneud.  Mae gan y bobl hyn brofiad o’n gwasanaethau felly, mae’n bwysig eu bod yn rhan o’r gwaith o baratoi ar gyfer y dyfodol.”

Un o’r lleoliadau cyntaf yr ymwelir ag ef ar y daith fydd uned casglu gwastraff ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yno, caiff y Gweinidog gyfle i gwrdd â’r staff a chlywed eu barn hwy am sut y gellir gwella’r gwasanaeth.  Hefyd, bydd y Gweinidog yn ymweld â chanolfan gelfyddydau ym Mhont Tyweli sy’n darparu gweithgareddau hamdden ac adloniant i bobl hŷn mewn ardaloedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin a bydd y Gweinidog yn ymuno â heddwas wrth ei waith yn Llandrindod hefyd.

Yn ddiweddarach ar y daith, bydd y Gweinidog yn ymweld â safle RAF y Fali yn Ynys Môn i weld sut mae teuluoedd y rheini sydd yn y lluoedd arfog yn credu y dylid gwella gwasanaethau lleol er mwyn cwrdd â’u hanghenion hwy.  Hefyd, mae’r Gweinidog yn awyddus i glywed gan bartneriaid o’r trydydd sector a bydd yn ymweld â nifer o gyrff a mudiadau gwirfoddol, gan gynnwys Swyddfa Gwirfoddolwyr y Fro yn y Bari.

Yn ystod yr ymweliadau, mae’r Gweinidog yn awyddus i drafod sut gellir gwella gwasanaethau lleol fel eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau lleol a’r hyn y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru ei wneud i helpu.

Ychwanegodd Carl Sargeant

“Mae’n rhaid i ni ddeall beth mae cymunedau lleol am ei weld yn cael ei ddarparu fel blaenoriaeth ac yna penderfynu sut y gallwn ni gyflawni hyn ar lefel leol.

“Mae’r heriau sy’n ein hwynebu yn galed ond trwy gydweithio, gallwn oresgyn yr heriau hyn a pharhau i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf lle mae eu hangen fwyaf.

“Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn ystod y daith hon.  Dim ond trwy gydweithio y gallwn ni ddiwallu’r heriau sy’n ein hwynebu.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gwella gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth leol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 06 Medi 2010 Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2012
Ll M M I G S S
<< Mai   Gor >>
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30  
I'n dilyn ni trowch i