Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn dechrau ar ei thaith yn y cymoedd i weld arbedion yn cael eu gwneud

Roedd y Gweinidog dros Gyllid ym Mhen-y-bont ar Ogwr heddiw i weld sut mae cannoedd o filoedd o bunnoedd yn cael eu harbed, diolch i fenter Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Dydd Llun 13 Medi 2010

Yn ystod rhan gyntaf ei thaith o amgylch Cymru, 'Mae’r Gymuned yn Cyfri', ymwelodd Jane Hutt â staff y rheng flaen yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a ddangosodd y gwaith sy'n cael ei wneud ar swyddfeydd effeithlon newydd a fydd yn arbed £329,000 bob blwyddyn.

Diolch i gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth y Cynulliad, mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo i symleiddio eu strategaeth ar adeiladau.

Mae'r cynllun, 'Improving your space', yn creu man gwaith gwell ar gyfer staff yr awdurdod sy'n gweithio mewn swyddfa ac yn sicrhau arbedion effeithlonrwydd ar yr un pryd.

Mae'r cyngor wedi cael Raven's Court yng nghanol y dref, felly mae'n gallu gwneud arbedion enfawr ar yr adeiladau yr oedden nhw'n arfer eu rhentu, yn ogystal â darparu amgylchedd gweithio o ansawdd uchel i'r staff er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd.

Meddai'r Gweinidog:  

"Mae hyn wedi bod yn ddechrau da i daith 'Mae’r Gymuned yn Cyfri'.

"Dw i wedi siarad â staff sy'n sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg mor effeithlon â phosibl, a dw i wedi ystyried safbwyntiau'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau hyn bob dydd.

"Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n wynebu cyfnod ariannol anodd yng Nghymru wrth i ni aros am Adolygiad Cynhwysfawr Llywodraeth y DU o Wariant y mis nesaf, ond mae'n galonogol gweld sut mae prosiectau Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes yn helpu i sicrhau'r arbedion hyn y mae eu hangen yn fawr heb beryglu'r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae'r cyhoedd yn eu derbyn – sy’n elfen bwysig iawn."

Mae taith 'Mae’r Gymuned yn Cyfri' yn parhau yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd y Gweinidog dros Gyllid yn cyfarfod â gweithwyr y rheng flaen, a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 13 Medi 2010 Gwasanaethau cyhoeddus Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i