Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llinell Amser y Gyllideb 2010

Wrth i Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Cymru ddechrau ar ei thaith 'Mae’r Gymuned yn Cyfri’ ledled Cymru, rydym yn edrych yn ôl ar sut y bu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn delio â’r toriadau arfaethedig i’r gyllideb dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Dydd Mercher 15 Medi 2010

Trwy Gydol Llynedd/Yn Gynnar Eleni

Gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad yn nodi bod amseroedd economaidd heriol o’n blaen.  Negeseuon clir yn cael eu rhoi i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y dylent ddechrau cynllunio nawr ar gyfer amseroedd ariannol anoddach i ddod.  

26 Chwefror 2010

Yr Uwchgynhadledd Gwasanaethau Cyhoeddus cyntaf yn pwysleisio her newid, delio â phwysau ariannol,  a datblygu ymateb cydweithredol, nodweddiadol Gymreig.  

18 Mawrth 2010

Cyfarfod cyntaf y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi.  Sefydlwyd y Bwrdd i arwain ar y gwaith o wella effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus, a hybu arloesedd a chysylltiad â’r cyhoedd yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u darparu i ddinasyddion.  

24 Mai 2010

Llywodraeth Prydain yn cyhoeddi y byddai’n torri cyllidebau eleni o gyfanswm o £6.2 biliwn.  

22 Mehefin 2010

Canghellor y Trysorlys yn cyflwyno cyllideb frys 2010.  Mae’r gyllideb hon yn cynnwys cyfuniad digynsail o:  

  • gynnydd mewn trethi – cyfanswm o dros £8bn erbyn 2014-15;
  • toriadau mewn budd-daliadau – cyfanswm o £11bn erbyn 2014-15;
  • a thoriadau pellach mewn gwariant gyhoeddus – cyfanswm o £20bn erbyn 2014-15.  

Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymateb i’r gyllideb, gan ddisgrifio’r cynlluniau fel “newyddion difrifol i bobl Cymru”.  Cyn gwneud penderfyniad i ohirio rhywfaint neu holl doriadau Cymru tan y flwyddyn nesaf – fel y gynigwyd gan y Prif Weinidog – eglurodd y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb bod angen mwy o eglurder o ran maint y toriadau, a sut y byddent yn cael effaith ar gynlluniau gwario cyfredol Llywodraeth y Cynulliad.  

Mehefin/Gorffennaf 2010

Y Prif Weinidog a’r Gweinidog Cyllid yn dechrau ymgynghori gyda amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd ar y rhagdybiaethau cynllunio cychwynnol y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu defnyddio i gynllunio ar gyfer Cyllidebau’r flwyddyn a ddaw – gostyngiadau refeniw o 3% y flwyddyn ar gyfartaledd a 10% ar gyfer cyfalaf.  Y Gweinidogion yn rhoi amlinelliad o feysydd o Gyllideb Llywodraeth y Cynulliad sydd i gael eu diogelu i raddau – ysgolion, sgiliau, gofal iechyd sylfaenol a chymunedol, a manteision cyffredinol (tocynnau teithio rhatach, llaeth am ddim mewn ysgolion, brecwast am ddim, presgripsiynau am ddim a nofio am ddim).  

6 Gorffennaf 2010

Comisiwn Holtham yn cyflwyno ei adroddiad terfynol ar gyllid ar gyfer Cymru i’r Prif Weinidog, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Busnes a’r Gyllideb.  Adroddiad y Comisiwn yn canfod bod Cymru yn cael ei thanariannu’n sylweddol o ganlyniad i drefniadau ariannu presennol.  

13 Gorffennaf 2010

Wedi ystyried yn ddwys, Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penderfynu cymeryd cymaint â phosib o doriadau 2010-11 i’r gyllideb, ond heb gymryd arian o flaenoriaethau polisi allweddol, ac yn enwedig heb gymryd risgiau o ran adferiad bregus yr economi.  Cyfran Llywodraeth Cynullid Cymru o’r toriadau yw £162 miliwn, sy’n golygu £113 miliwn mewn refeniw a £49 miliwn mewn cyfalaf.    

15 Gorffennaf 2010

Y Gweinidog Busnes a’r Gyllideb yn cyfarfod â Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn ogystal â Gweinidogion Cyllid o’r gweinyddiaethau datganoledig.  Y Gweinidog yn trafod ystod eang o faterion Cymreig â’r Ysgrifennydd Gwladol a’r Prif Ysgrifennydd, gan gynnwys prosiectau cyfalaf sylweddol sy’n bwysig i Gymru, ac argymhellion adroddiad Comisiwn Holtham, yn enwedig bwysigrwydd ariannu teg i Gymru cyn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth Prydain ym mis Hydref.  

Haf 2010

Mae’r gwaith o nodi ble y gellir gwneud arbedion refeniw pellach yn y gyllideb yng Nghymru yn parhau i fynd rhagddo.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i edrych am gyfleoedd i wneud arbedion pellach dros y misoedd nesaf – ond dim ond ble y gall wneud gostyngiadau sydd ddim yn arwain at ganlyniadau annerbyniol.  

Medi 2010

Y Gweinidog Busnes a’r Gyllideb yn rhoi amlinelliad o Daith Cyllideb o amgylch Cymru, gan gyfarfod gweithwyr yn y sector cyhoeddus, i ddod i wybod eu barn am ble y gellir gwneud arbedion effeithlonrwydd, a sut y gellir gwella gwasanaethau i’r rhai hynny sy’n dibynnu arnynt fwyaf.  

15 Medi 2010

Y Gweinidog Cyllid yn cyfarfod â Cheryl Gillan unwaith eto, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn ogystal â Gweinidogion Cyllid o’r gweinyddiaethau datganoledig.  

20 Hydref 2010

Canlyniad Adolygiad o Wariant Llywodraeth Prydain, fydd yn penderfynu ar lefel y cyllid fydd ar gael i Lywodraeth Cynulliad Cymru dros y bedair mlynedd nesaf.  

Tachwedd 2010

Cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn rhoi amlinelliad o sut y bydd yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu dosbarthu rhwng portffolios a rhaglenni gwariant Gweinidogion.  

Tachwedd 2010- Ionawr 2011

Y Cynulliad yn craffu ar gynlluniau gwario y Llywodraeth.  

Dechrau Chwefror 2011

Trafod cyllideb derfynol Llywodraeth y Cynulliad.  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Llywodraeth y Cynulliad i amddiffyn rhaglenni cyfalaf eleni Datganiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru am y Gyllideb Datganiad gan Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a Chyllideb, yn dilyn cyfarfod gyda’r Prif Ysgrifenydd i’r Trysorlys Budget Minister makes statement on UK Government spending cuts

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 15 Medi 2010 Yr economi Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i