Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Mae’r Gymuned yn Cyfri’ yn y Gogledd

Mae’r Gweinidog dros Gyllid, Jane Hutt, yn parhau â’i thaith ‘Mae’r Gymuned yn Cyfri’ drwy Gymru, gan ymweld â’r Gogledd. Bydd hi’n cyfarfod â gweithwyr rheng flaen yn Llanelwy ac yn y Rhyl. Yn ystod ei hymweliad, bydd yn dysgu mwy am gynllun teledu cylch cyfyng a allai arbed £450,000 y flwyddyn.
Dydd Iau 30 Medi 2010

Mae’r daith, a ddechreuodd ar 13 Medi, eisoes wedi mynd â hi i’r Cymoedd ac i’r Gorllewin. Mae Cymru yn disgwyl setliad cyllidebol heriol gan Lywodraeth San Steffan, ac mae’r Gweinidog am gael cyfle i drafod effaith hynny â’r bobl sy’n darparu’r gwasanaethau pwysig yn ein cymunedau. Yn ystod y daith, bydd y Gweinidog yn cyfarfod â gweithwyr rheng flaen yn y sector cyhoeddus, defnyddwyr gwasanaethau a chynrychiolwyr o’r trydydd sector a’r sector preifat.

Yn y Gogledd, bydd y Gweinidog yn ymweld â’r Ganolfan Gydgyfathrebuyn Llanelwy sy’n sicrhau bod y tri gwasanaeth golau glas yn gallu cydweithio’n fwy effeithiol. Prif nod y ganolfan yw galluogi’r holl wasanaethau i gydweithio’n agosâ’i gilydd mewn un man.

Bydd y Gweinidog hefyd yn dysgu mwy am gynllun cydweithredu a fydd yn cyflwyno un system teledu cylch cyfyng ar gyfer y Gogledd i gyd. Mae’r cynllun wedi cael £805,000 o Gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth y Cynulliad. Bydd chwe awdurdod lleol y Gogledd a Heddlu’r Gogledd yn cydweithio i ddefnyddio un system gyda’r dechnoleg ddiweddaraf sy’n cwmpasu’r Gogledd i gyd, yn hytrach na chwe system CCTV ar wahân.

Cyn ei hymweliad, meddai Jane Hutt: "Dw i’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am y cynllun hwn sy’n defnyddio un system teledu cylch cyfyng mewn modd cydweithredol, ac sydd â’r potensial i arbed £450,000 y flwyddyn. Bydd rhannu gwasanaethau ar draws y Gogledd yn arbed arian i’r cynghorau sy’n cymryd rhan, a bydd yn helpu i sicrhau bod yr heddlu a gwasanaethau brys eraill yn ymateb yn effeithiol.

"Mae teledu cylch cyfyng yn chwarae rhan bwysig i ddiogelu’r gymuned ac yn helpu i dawelu meddyliau pobl. Trwy ddefnyddio un system teledu cylch cyfyng ar gyfer y Gogledd i gyd, dylai fod yn haws gweld ac atal troseddau, yn ogystal ag arbed arian."

Yn ystod ei hymweliad â Llanelwy a Chanolfan Hamdden y Rhyl, bydd y Gweinidog yn cyfarfod â staff rheng flaen i glywed eu sylwadau ar yr hyn y dylid ei flaenoriaethu, sut i weithio’n fwy effeithlon ac arbed arian, a sut y gellir gwella gwasanaethau i’r defnyddwyr.

Meddai Jane Hutt: "Dw i am fanteisio ar y cyfle hwn, cyn i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi’i hadolygiad o wariant, i glywed barn y gweithwyr rheng flaen yn y sector cyhoeddus a defnyddwyr gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru. Mae’n hanfodol gwrando ar brofiad y bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Dw i’n awyddus i glywed sylwadau gweithwyr y Gogledd a’u syniadau o ran gweithio’n fwy effeithiol ac effeithlon wrth i ni wynebu’r cyfnod anodd iawn sydd o’n blaenau.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 30 Medi 2010 Gwasanaethau cyhoeddus Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i