Dywedodd y Gweinidog wrth Aelodau’r Cynulliad am ei thaith ddiweddar o amgylch Cymru, Mae’r Gymuned yn Cyfri, ble y bu’n cyfarfod â gweithwyr y sector cyhoeddus, aelodau’r cyhoedd a chynrychiolwyr y sector gwirfoddol (trydydd) a sectorau preifat.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae’n glir iawn i mi gryfder teimlad pobl yng Nghymru tuag at eu cymunedau. Dwi wedi gweld balchder mawr ymysg y rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen, a chanmoliaeth gan bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau y mae nhw’n eu darparu.
“Dwi hefyd wedi ymweld â rhai enghreifftiau rhagorol o effeithlonrwydd ac arloesedd, ble y mae sefydliadau wedi cydweithio i roi’r dinesydd yn ganolog i ddarparu gwasanaethau. Ledled Cymru, mae gwasanaethau a mentrau’n bodoli sy’n dangos y gall cydweithredu ac ailgynllunio gwasanaethau arbed arian sylweddol, darparu gwasanaethau gwell ac, yn y pen draw, ganlyniadau gwell i’r gwasanaethau.
“Byddaf yn mynd ar ôl gyfleoedd i symleiddio llywodraeth a lleihau costau prosesau trwy’r Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi, ac rwy’n gwybod bod fy nghydweithwyr yn arwain nifer o fentrau allweddol gyda’r un nod. Rwy’n teimlo y gallwn gysylltu’r rhain i ddatblygu neges gref ynghylch sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio â phartneriaid i leihau gorbenion y llywodraeth, a thargedu gwasanaethau ataliol a chymorth.”
Dywedodd y Gweinidog wrth Aelodau’r Cynulliad am bryderon y bobl y cyfarfu â hwy ar y daith, gyda neges glir iawn y daw gwasanaethau cymorth, yn enwedig y rhai hynny sy’n cynnig mesurau ymyrraeth gynnar a mesurau ataliol, hyd yn oed yn fwy hanfodol mewn cyfnodau o ansicrwydd economaidd:
“Mae angen nifer o wasanaethau cymorth nawr yn fwy nag erioed, gan bod y lleihad yng nghyllid Llywodraeth Prydain yn cael effaith ar allu pobl i ddod o hyd i waith, i dalu eu costau tai a sicrhau iechyd meddwl. Yn benodol, roedd y bobl y cefais gyfarfod â hwy yn pryderu y byddai ergydion i’r gwasanaethau o fwy nag un cyfeiriad, gyda rhagolygon o leihad mewn cyllid uniongyrchol neu anuniongyrchol.”
Dywedodd y Gweinidog wrth y Cynulliad y byddai’r adborth a gafodd yn helpu i ddylanwadu ar agwedd Llywodraeth Cynulliad Cymru tuag at setliad heriol y gyllideb sydd o’n blaenau.











