Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llinell Amser y Gyllideb: Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Prydain ar yr Adolygiad o Wariant ddydd Mercher, gall Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach gwblhau eu cyllideb ddrafft eu hunain, fydd yn cael ei chyhoeddi ganol Tachwedd, a’r gyllideb derfynol yn cael ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddechrau Chwefror 2011.
Dydd Mercher 20 Hydref 2010

Pob blwyddyn, bydd Cymru’n derbyn dyraniad o’r gyllideb gan Lywodraeth Prydain.  Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu cynlluniau ar sut i wario’r gyllideb.  Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu cyflwyno yn y Gyllideb ddrafft, sy’n cael ei chyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol, y Pwyllgorau yn craffu arni, a’r Cyfarfod Llawn yn cynnal trafodaethau arni, cyn i’r Cynulliad ei chymeradwyo’n ffurfiol.

Mae cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu rhai o’n gwasanaethau cyhoeddus pwysicaf, gan gynnwys ysbytai, prifysgolion a cholegau, ffyrdd, gwasanaethau tân ac ambiwlans, a’r nifer fawr o wasanaethau, megis ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, sy’n cael eu darparu gan gynghorau.  Caiff y gyllideb ei dyrannu yn unol â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru.  

Dechreuodd y broses o gynllunio’r gyllideb ddechrau’r flwyddyn, ond mae’r llinell amser isod yn rhoi amlinelliad o rhai o’r prif ddyddiadau yn y broses o gynllunio’r gyllideb rhwng nawr a Chwefror.  

20 Hydref

Llywodraeth Prydain yn cyhoeddi ei Hadolygiad o Wariant .

21 Hydref

Cabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyfarfod i drafod canlyniadau’r Adolygiad o Wariant.  

17 Tachwedd

Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft.  Mae’r gyllideb ddrafft yn pennu sut y bydd yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu dosbarthu rhwng portffolios y Gweinidogion a meysydd gwariant rhaglenni.  

Tachwedd – Ionawr  

Y Cynulliad yn craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth y Cynulliad.  

18 Ionawr 2011

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod y Gyllideb Ddrafft.  

1 Chwefror 2011

Y Gyllideb Derfynol yn cael ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  

8 Chwefror 2011

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod y Gyllideb Derfynol.  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Llinell Amser y Gyllideb 2010 Ariannu

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 20 Hydref 2010 Yr economi Gwasanaethau cyhoeddus Cyllideb Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i