Mae gan Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol gyfrifoldeb cyffredinol dros gydlynu gwaith ledled Cymru mewn tywydd drwg. Mae’n barod i arwain trwy gysylltu â llywodraeth leol, Llywodraeth y Cynulliad a chyrff eraill y sector cyhoeddus, a bydd hefyd yn arwain y gwaith o gynllunio wrth gefn pe bai argyfwng yn codi.
Meddai Carl Sargeant:
"Mae’n bwysig paratoi cymaint â phosib ar gyfer y tywydd gaeafol sydd wedi’i ddarogan. Mae gwasanaethau cyhoeddus fel gofal yn y cartref a phrydau ar glud yn aml yn hanfodol i bobl fregus, ac mae’n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i barhau i’w darparu.
"Mae cadw traffig a phobl i symud trwy raeanu a chlirio eira ar rwydwaith y ffyrdd hefyd yn hanfodol. Dyna pam y cyhoeddais gyllid ychwanegol o £7 miliwn yn ddiweddar i Gynghorau ei wario ar drwsio tyllau a phrynu halen ar gyfer y ffyrdd y gaeaf hwn.
"Yn olaf, mae’n bwysig cofio y gall bawb chwarae eu rhan trwy sicrhau bod cymdogion, perthnasau a ffrindiau bregus ac oedrannus yn iawn, a chynnig help llaw iddynt."











