Daw ymweliad y Gweinidog â Llandrindod â’i thaith bedair wythnos o Gymru i ben. Yn ystod y daith, bu’n ymweld ag yn siarad â gweithwyr rheng flaen y sector cyhoeddus, defnyddwyr y gwasanaeth a chynrychiolwyr y sector gwirfoddol i gael eu barn ar lle y gellid gwneud arbedion, sut y gellir gwella gwasanaethau, a’u blaenoriaethau o ran y gyllideb heriol sydd o’n blaenau.
Bydd y Gweinidog yn dechrau ei hymweliad yn Neuadd y Sir, ble y bydd yn cyfarfod ag aelodau o brosiect arloesol Cydwasanaethau Powys a Cheredigion. Mae Cyngor Sir Powys a Chyngor Ceredigion yn datblygu trefniadau gweithio ar y cyd i ddarparu gwasanaethau eiddo, trafnidiaeth a pheirianyddol. Trwy gydweithio, mae gwasanaethau’r cynghorau yn integreiddio i fodloni anghenion rhanbarthol, ac maent yn disgwyl cynhyrchu oddeutu £200,000 o arbedion eleni, gyda mwy i ddilyn yn y blynyddoedd nesaf. Bydd y Gweinidog hefyd yn clywed am gynlluniau Cyngor Sir Powys a Byrddau Addysgu Iechyd Powys i wella gwasanaethau trwy integreiddio meysydd megis Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Tai, diogelu’r cyhoedd a gwasanaethau plant.
Bydd y Gweinidog yn teithio i Ysgol Trefonnen yn nes ymlaen, ble, gyda chymorth grant £3.2 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Canolfan Deuluol newydd yn cael ei hadeiladu. Bydd y ganolfan yn gwella’r ddarpariaeth, y cyfleoedd dysgu a’r cyfleusterau cymunedol i blant a theuluoedd yr ardal yn unol â’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc. Bydd yr ysgol yn cynnwys Addysg Blynyddoedd Cynnar cyfrwng Cymraeg a Saesneg, a chyfleusterau gofal plant, yn ogystal ag ystafell amlbwrpas i gynnal gweithgareddau megis clinigau ymwelydd iechyd a sesiynau cyswllt teuluol dan oruchwyliaeth. Bydd y Ganolfan Deuluol yn cael ei defnyddio gan amrywiol weithwyr proffesiynol, yn darparu gwasanaethau i deuluoedd lleol, gan gynnwys therapyddion lleferydd a iaith, gweithwyr iechyd meddwl a gweithwyr cymorth teuluol Gweithredu Dros Blant. Bydd y ganolfan hefyd yn ganolbwynt y gymuned, gan agor ei chyfleusterau i’r gymuned y tu allan i ddiwrnod arferol yr ysgol.
Wrth edrych ymlaen at ei hymweliad, dywedodd y Gweinidog:
“Mae prosiect Cydwasanaethau Powys a Ceredigion yn enghraifft ragorol o weithio deallus rhwng cynghorau. Wedi ei sbarduno gan awydd o’r ddwy ochr i wella gwasanaethau ac arbed arian, bydd y prosiect yn caniatáu i’r ddau gorff hwn gynnig ymateb gwirioneddol ranbarthol i ddarparu gwasanaethau.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y mae’r Ganolfan Deuluol newydd yn Ysgol Trefonnen yn dod yn ei blaen, ac at siarad â rhieni ynghylch sut y bydd y ganolfan yn eu cynorthwyo yn y dyfodol. Bydd y ganolfan y gyntaf o’i bath ym Mhowys, ac mae’n fodel blaenllaw. Bydd yn bosibl i deuluoedd gael amrywiaeth eang o wasanaethau yn lleol mewn amgylchedd sy’n gyfarwydd ac yn gyfforddus iddynt. Rwy’n siŵr y bydd y ganolfan hefyd yn darparu gwasanaeth gwych i’r gymuned yn gyffredinol, gan ganiatáu i’r bobl leol ddefnyddio eu cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.”
Wrth edrych yn ôl ar y Daith Mae’r Gymuned yn Cyfri, dywedodd y Gweinidog:
“Mae’n amlwg iawn i mi pa mor gryf y mae pobl yn deimlo am eu cymunedau. Yn ystod y daith cefais y cyfle i wrando ar nifer o bobl ymroddedig sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ogystal â’r bobl sy’n dibynnu fwyaf arnynt. Rwyf hefyd wedi gweld rhai enghreifftiau gwych o effeithlonrwydd ac arloesedd, ble y mae sefydliadau wedi cydweithio i sicrhau bod y dinesydd yn ganolog i ddarparu gwasanaethau. Wrth inni edrych ymlaen at Adolygiad Cynhwysfawr Llywodraeth Prydain mewn pythefnos, rwyf am ei wneud yn glir y byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddiogelu y gwasanaethau rheng flaen sy’n wirioneddol bwysig i’n cymunedau.”











