Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog cyllid yn ymweld â'r canolbarth ar y daith mae'r Gymuned yn Cyfri

Heddiw, mae Jane Hutt Gweinidog Cyllid Cymru yn dod â’i thaith Mae’r Gymuned yn Cyfri i ben.
Dydd Gwener 08 Hydref 2010

Daw ymweliad y Gweinidog â Llandrindod â’i thaith bedair wythnos o Gymru i ben. Yn ystod y daith, bu’n ymweld ag yn siarad â gweithwyr rheng flaen y sector cyhoeddus, defnyddwyr y gwasanaeth a chynrychiolwyr y sector gwirfoddol i gael eu barn ar lle y gellid gwneud arbedion, sut y gellir gwella gwasanaethau, a’u blaenoriaethau o ran y gyllideb heriol sydd o’n blaenau.  

Bydd y Gweinidog yn dechrau ei hymweliad yn Neuadd y Sir, ble y bydd yn cyfarfod ag aelodau o brosiect arloesol Cydwasanaethau Powys a Cheredigion.  Mae Cyngor Sir Powys a Chyngor Ceredigion yn datblygu trefniadau gweithio ar y cyd i ddarparu gwasanaethau eiddo, trafnidiaeth a pheirianyddol.  Trwy gydweithio, mae gwasanaethau’r cynghorau yn integreiddio i fodloni anghenion rhanbarthol, ac maent yn disgwyl cynhyrchu oddeutu £200,000 o arbedion eleni, gyda mwy i ddilyn yn y blynyddoedd nesaf.  Bydd y Gweinidog hefyd yn clywed am gynlluniau Cyngor Sir Powys a Byrddau Addysgu Iechyd Powys i wella gwasanaethau trwy integreiddio meysydd megis Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Tai, diogelu’r cyhoedd a gwasanaethau plant.  

Bydd y Gweinidog yn teithio i Ysgol Trefonnen yn nes ymlaen, ble, gyda chymorth grant £3.2 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Canolfan Deuluol newydd yn cael ei hadeiladu.  Bydd y ganolfan yn gwella’r ddarpariaeth, y cyfleoedd dysgu a’r cyfleusterau cymunedol i blant a theuluoedd yr ardal yn unol â’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc.  Bydd yr ysgol yn cynnwys Addysg Blynyddoedd Cynnar cyfrwng Cymraeg a Saesneg, a chyfleusterau gofal plant, yn ogystal ag ystafell amlbwrpas i gynnal gweithgareddau megis clinigau ymwelydd iechyd a sesiynau cyswllt teuluol dan oruchwyliaeth.  Bydd y Ganolfan Deuluol yn cael ei defnyddio gan amrywiol weithwyr proffesiynol, yn darparu gwasanaethau i deuluoedd lleol, gan gynnwys therapyddion lleferydd a iaith, gweithwyr iechyd meddwl a gweithwyr cymorth teuluol Gweithredu Dros Blant.  Bydd y ganolfan hefyd yn ganolbwynt y gymuned, gan agor ei chyfleusterau i’r gymuned y tu  allan i ddiwrnod arferol yr ysgol.

Wrth edrych ymlaen at ei hymweliad, dywedodd y Gweinidog:

“Mae prosiect Cydwasanaethau Powys a Ceredigion yn enghraifft ragorol o weithio deallus rhwng cynghorau.  Wedi ei sbarduno gan awydd o’r ddwy ochr i wella gwasanaethau ac arbed arian, bydd y prosiect yn caniatáu i’r ddau gorff hwn gynnig ymateb gwirioneddol ranbarthol i ddarparu gwasanaethau.  

“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y mae’r Ganolfan Deuluol newydd yn Ysgol Trefonnen yn dod yn ei blaen, ac at siarad â rhieni ynghylch sut y bydd y ganolfan yn eu cynorthwyo yn y dyfodol.  Bydd y ganolfan y gyntaf o’i bath ym Mhowys, ac mae’n fodel blaenllaw.  Bydd yn bosibl i deuluoedd gael amrywiaeth eang o wasanaethau yn lleol mewn amgylchedd sy’n gyfarwydd ac yn gyfforddus iddynt.  Rwy’n siŵr y bydd y ganolfan hefyd yn darparu gwasanaeth gwych i’r gymuned yn gyffredinol, gan ganiatáu i’r bobl leol ddefnyddio eu cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.”  

Wrth edrych yn ôl ar y Daith Mae’r Gymuned yn Cyfri, dywedodd y Gweinidog:  

“Mae’n amlwg iawn i mi pa mor gryf y mae pobl yn deimlo am eu cymunedau.  Yn  ystod y daith cefais y cyfle i wrando ar nifer o bobl ymroddedig sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ogystal â’r bobl sy’n dibynnu fwyaf arnynt.  Rwyf hefyd wedi gweld rhai enghreifftiau gwych o effeithlonrwydd ac arloesedd, ble y mae sefydliadau wedi cydweithio i sicrhau bod y dinesydd yn ganolog i ddarparu gwasanaethau.  Wrth inni edrych ymlaen at Adolygiad Cynhwysfawr Llywodraeth Prydain mewn pythefnos, rwyf am ei wneud yn glir y byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddiogelu y gwasanaethau rheng flaen sy’n wirioneddol bwysig i’n cymunedau.”  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 08 Hydref 2010 Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i