Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyhoeddi £9miliwn i ddarparu gofal a chymorth mewn modd sy’n parchu urddas

Cyhoeddodd y Gweinidog dros Gyllid ei bod yn rhoi £9miliwn i ddarparu gofal effeithiol i bobl fregus yn eu cartrefi.
Dydd Mercher 29 Medi 2010

Cyhoeddodd Jane Hutt ei bod wedi rhoi’r arian i Raglen Gofal i Bobl Fregus yng Ngwent, a hynny yn bennaf o dan fenter Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nod y Rhaglen yw:

  • dod â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd er mwyn helpu i gysylltu â’r person iawn ar yr adeg iawn;
  • creu pwynt chyswllt i’w gwneud yn haws cyfathrebu, trwy benodi un person allweddol i fod yn gyfrifol am lywio pobl trwy’r system;
  • sicrhau’r lefel briodol o ran ymateb, a all amrywio yn ôl faint o gymorth sydd ei angen ar unrhyw adeg arbennig.
  • helpu pobl i barhau i fyw’n annibynnol;
  • darparu gofal yng nghartrefi pobl neu’n agos at eu cartrefi, fel nad oes rhaid iddyn nhw aros yn yr ysbyty pan nad oes gwir angen gwneud hynny;
  • sicrhau arbedion effeithlonrwydd gwerth £1.2miliwn bob blwyddyn.

Cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan gais am gymorth oddi wrth y Gronfa. Cytunwyd i roi £9miliwn i gefnogi’r rhaglen dros gyfnod o dair blynedd, sef £6miliwn o’r Gronfa Buddsoddi i Arbed ynghyd ag arian sy’n cael ei neilltuo o gyllidebau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus.

Meddai’r Gweinidog dros Gyllid:

"Mae’n bleser gen i wneud y cyhoeddiad hwn heddiw, yn enwedig gan fod y Rhaglen Gofal i Bobl Fregus yng Ngwent yn brosiect mor fuddiol sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywyd bob dydd pobl yn eu cymuned."

Meddai Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Mae gan y Rhaglen Gofal i Bobl Fregus yng Ngwent y potensial gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl fregus yr ardal, gan ei bod yn ymdrin â’r materion hynny sy’n hanfodol o ran darparu gofal effeithiol sy’n parchu urddas yr unigolyn."

Meddai Alison Ward, Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen Gofal i Bobl Fregus a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen:

"Ar ôl ymgynghori, gwelwyd bod yn well gan bobl gael gwasanaethau a gofal yn amgylchedd cyfforddus eu cartref yn hytrach na gorfod aros yn yr ysbyty."

Meddai Andrew Goodall, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan:

"Newid digon syml yw hwn, ond serch hynny, mae’n dangos pwyslais gwahanol yn y system a fydd yn dod â manteision enfawr - llai o bobl yn gorfod aros yn yr ysbyty neu’n aros yno am gyfnodau byrrach. Bydd hyn yn arwain at lai o gymhlethdodau a llai o alw am becynnau gofal cymhleth."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gwella gwasanaethau cyhoeddus

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 29 Medi 2010 Cymru iachach Gwella iechyd Gwasanaethau cyhoeddus Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i