Bydd y fenter yn dod â Byrddau Gwasanaethau Lleol o 15 awdurdod yn ardal Gydgyfeirio Cymru ynghyd i arloesi â phrosiectau sy'n sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu yn cael yr effaith fwyaf bosibl.
Gyda chymorth arian Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan gynnwys £7.7 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bydd y fenter yn datblygu sgiliau ac arbenigedd i gynyddu arbedion a hyrwyddo rhagor o gydweithio rhwng sefydliadau.
Meddai'r Gweinidog Jane Hutt AC:
"Mae hyn yn rhoi hwb mawr i'r gwasanaethau cyhoeddus yn ystod cyfnod economaidd anodd. Rydyn ni'n benderfynol o barhau i wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu i'n dinasyddion ac rydyn ni'n disgwyl helpu ystod o brosiectau sydd o ansawdd uchel ac a fydd yn sicrhau rhagor o gydweithio, a fydd yn fwy effeithlon ac a fydd yn annog rhagor o ddinasyddion i gymryd rhan. Bydd y don gyntaf o brosiectau yn cael ei rhoi ar waith y mis hwn (Ionawr 2011)."
Mae'r ddau brosiect cyntaf a gaiff eu rhoi ar waith y mis hwn (Ionawr 2011) ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe. Nod y ddau yw ailwampio gwasanaethau er mwyn iddyn nhw ddiwallu anghenion teuluoedd a gweithio gyda nhw i ddatblygu gwasanaethau a fydd o fantais i ragor o bobl.
Bydd y prosiect yn helpu rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi Cymru i sicrhau arbedion mewn costau a datblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau gwell. Cafodd bwrdd rhaglen ei sefydlu y llynedd (2010), sy'n cynnwys partneriaid cymdeithasol a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus, mewn ymateb i'r dirwasgiad.
Caiff y prosiect ei weithredu mewn partneriaeth â Byrddau Partneriaethau Rhanbarthol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Phartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf i sicrhau cydweithio ar lefel ranbarthol, leol a chymunedol.
Meddai'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Carl Sargeant AC:
"Mae'r arian hwn yn cynnig cyfle gwych i Bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf a Byrddau Gwasanaethau Lleol gryfhau eu cysylltiadau a chydweithio er budd ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Dyma gyfle gwych i'r awdurdodau lleol a'u partneriaid ddangos eu gallu gwirioneddol i arwain. Mae hefyd yn cefnogi fy ymrwymiad i weithredu'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf gan ddefnyddio ei seilwaith i helpu i gyflawni prif flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad."
Meddai'r Cynghorydd John Davies, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
"Mae llywodraeth leol yn croesawu'r cyfle a fydd ar gael drwy'r prosiect hwn i reolwyr prosiectau gael secondiad i weithredu ystod o brosiectau Byrddau Rhanbarthol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros y pedair blynedd nesaf. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol am ymrwymo i roi arian cyfatebol i'r prosiect.
"Mae tystiolaeth yn dangos bod prosiectau cydweithredol yn fwy tebygol o lwyddo os ydyn nhw'n cael cymorth gan reolwyr prosiectau penodedig - bydd y prosiect hwn yn ei gwneud yn bosibl inni weithredu prosiectau'n gyflymach. Bydd deuddeg unigolyn yn cael eu recriwtio ar secondiad o'r tu mewn i'r sector cyhoeddus i'n helpu ni i ddiogelu swyddi yn ystod y cyfnod anodd hwn yn ogystal â datblygu sgiliau ac arbenigedd ein gweithlu."











