Mae Cronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru'n rhoi cymorth i gyrff gwasanaethau cyhoeddus drawsnewid y ffordd y maent yn gweithio fel eu bod yn fwy effeithlon ac yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i bobl Cymru.
Mae'r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y T? wedi cytuno i ddyrannu cyllid yn 2011-12 i gefnogi cynigion a gyflwynwyd o dan bedwaredd cylch y Gronfa.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt:
"Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cynnig cymorth i'r sefydliadau hyn sy'n darparu gwasanaethau hanfodol i'r cyhoedd, fel eu bod yn cael y cyfle i weithio mor gost-effeithiol â phosib.
"Rydyn ni'n wynebu amseroedd ariannol anodd yng Nghymru. Felly, mae'n hanfodol bod y rhai sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i edrych am ffyrdd gwahanol o'u cyflenwi, gan sicrhau nad yw dulliau mwy cost-effeithiol yn golygu bod yr ansawdd yn dioddef. Mae ein dull unigryw ni o weithredu - yn arbennig drwy Fuddsoddi i Arbed, yn rhoi'r cymorth y mae ei angen ar gyrff cyhoeddus i ddatblygu a hyrwyddo eu prosiectau gwella er lles y cyhoedd."
Bydd yr arian diweddaraf hwn yn gweld £3 miliwn yn cael ei fuddsoddi, er enghraifft, i alluogi chwe sefydliad yn y Gogledd o blith llywodraeth leol, y gwasanaethau brys a'r bwrdd iechyd lleol i ymuno â Rhwydwaith Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PBSA). Mae'r rhwydwaith diogel hwn yn unigryw i Gymru o fewn y DU a gall ddarparu cysylltiadau drwy ddefnyddio'r llais, fideo a data rhwng sefydliadau, a hynny am oddeutu 20% yn llai.
Neilltuwyd cyfanswm o £500,000 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i dreialu meddalwedd adnabod llais digidol a fydd yn arbed 30% mewn costau, yn cyflymu'r cyfathrebu rhwng meddygon mewn ysbytai ac ymarferwyr cyffredinol ac yn arwain at wasanaethau gwell i gleifion.
Cyhoeddir cylch arall o'r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn ddiweddarach yn ystod yr haf.











