Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn disgrifio’r ffordd ymlaen i Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

Disgrifiodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, y ffordd ymlaen er mwyn diwygio'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Dydd Mawrth 27 Medi 2011

Wrth siarad yn y Cyfarfod Llawn, dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gwerthfawrogi gwasanaethau cyhoeddus a pharhau i fuddsoddi ynddynt, hefyd yn eu herio i gyflenwi er lles pobl Cymru.

Dywedodd Carl Sargeant,

"Mae ein hagenda ddiwygio yn rhaglen weithredu ymarferol a fydd yn cefnogi'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau gwell mewn cyd-destun ariannol heriol.

"Er mwyn egluro sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus gydweithredu rwyf wedi nodi’r patrwm hwn ar gyfer cyflenwi gwasanaethau.  Rwy'n disgwyl i'r patrwm   hwn fod yn sail i'r cydweithredu yn y dyfodol rhwng y gwasanaethau cyhoeddus.

"Mae'r patrwm yn darparu cydlyniaeth ar gyfer cydweithredu rhanbarthol yn y dyfodol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus ac yn rhoi'r eglurder hwnnw y mae llywodraeth leol ei hunan wedi gofyn amdano.

"Os yw bod yn fach yn gallu bod yn fantais mewn termau democrataidd, mae'n risg i berfformiad os mai cyfyngedig yw’r gallu sydd gan sefydliadau bach i fynd i'r afael â heriau strategol.  Mae cydweithredu yn hanfodol i welliant a dyna pam rwy'n diwygio'r Cyngor Partneriaeth ac yn ei herio i ddarparu’r arweiniad gwleidyddol i wella gwasanaethau cyhoeddus.

"Bydd y Cyngor yn bartner allweddol wrth fynnu bod llywodraeth leol yn gyfrifol am gynnydd.  Er mwyn sicrhau y caiff hyn ei gyflawni ceir Compact â llywodraeth leol a fydd yn egluro'n fanwl yr hyn sydd angen ei wneud, gan bwy ac erbyn pryd.  

"Hoffwn hefyd weld Aelodau etholedig lleol yn hyrwyddo anghenion eu cymunedau ac yn mynnu bod rheolwyr yn atebol am eu heffeithiolrwydd wrth ddiwallu'r anghenion hynny.  Gwaith yr Aelodau lleol yw craffu ar y trefniadau hynny, sut bynnag y cânt eu darparu, a sicrhau nad yw'r patrwm mewn unrhyw fodd yn torri ar draws hyn.    

"Ochr yn ochr ag arweiniad gwleidyddol mae'n rhaid inni gael arweiniad gweithredol effeithiol, sy'n trosi'r ewyllys yn gyflenwi.  Bydd y grŵp newydd, Grŵp Arweinwyr y Gwasanaethau Cyhoeddus, y mae ei aelodau'n arwain llawer o'r sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus mwyaf yng Nghymru, yn gwneud gwaith hanfodol er mwyn sicrhau bod manteision unrhyw newid yn cael eu gweld ledled Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i wella'r cyflenwi a lleihau'r gost.  Er y byddwn yn parhau i werthfawrogi gwasanaethau cyhoeddus, byddwn hefyd yn parhau i'w herio i godi eu perfformiad, ac i ddangos sut maent yn cyfrannu at ffyniant economaidd a lles cymdeithasol pawb yng Nghymru."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 27 Medi 2011 Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i