Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Yr arferion caffael gorau yn dod â manteision cymunedol i Abercynon

Anogodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt bob corff cyhoeddus i ddilyn yr arferion caffael gorau er mwyn creu cyfleoedd i gymunedau lleol.
Dydd Mercher 25 Ionawr 2012

Wrth ymweld â safle Ysgol Gynradd newydd Abercynon, sydd wedi derbyn £8m gan Lywodraeth Cymru, gwelodd y Gweinidog sut y mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Willmott Dixon, y contractwr sy’n gweithio ar y prosiect, wedi cydweithio er mwyn datblygu Strategaeth Manteision Cymunedol ar gyfer yr ardal leol.

Dywedodd Jane Hutt:

"Mae miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus yn cael eu gwario ar brosiectau adeiladu fel ysgolion newydd, uwchraddio ysbytai a phrosiectau trafnidiaeth ar draws Cymru bob blwyddyn. Pan fo’r arian hwnnw’n cael ei wario, mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth i wneud yn siŵr bod ein cymunedau lleol yn cael cymaint o fudd â phosibl.

"Drwy gynnwys manteision cymunedol yn y broses gaffael gall cyrff cyhoeddus helpu i greu swyddi newydd a phrentisiaethau ar gyfer pobl leol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau lleol.

"Drwy ddefnyddio’r dull manteision cymunedol ar gyfer prosiect Ysgol Fabanod Abercynon, mae Rhondda Cynon Taf a Willmott Dixon yn bwriadu creu swyddi a phrentisiaethau ar gyfer pobl leol, yn ogystal â sicrhau bod 75% o is- gontractau yn cael eu hennill gan gyflenwyr lleol."

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Erbyn hyn, mae’r dull manteision cymunedol wedi’i ddefnyddio ar gyfer prosiectau gwerth dros £3bn ar draws Cymru. Mae hyn wedi helpu i gadw a chreu cannoedd o swyddi lleol ynghyd â chynlluniau cymunedol eraill.  

"Rwy’n gobeithio y bydd pob corff cyhoeddus yn gweld y cyfleoedd y mae’r dull manteision cymunedol wedi eu cynnig i Abercynon, ac yn ei ddefnyddio’n ehangach drwy eu gweithdrefnau caffael eu hunain."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Budd i’r Gymuned: Sicrhau’r Gwerth Gorau am Arian Cymru

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 25 Ionawr 2012 Yr economi Gwasanaethau cyhoeddus Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i