Mae ‘Gorsaf Wybodaeth’ Casnewydd yn Un wedi cael £700,000 o gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru er mwyn tynnu ynghyd wasanaethau Cyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill.
Mae pobl yn gallu mynd i’r ganolfan i gael gwybodaeth am ystod o wasanaethau. Maen nhw hefyd yn gallu cael cyngor ar faterion fel: trethi busnes, y dreth gyngor, gwasanaethau ailgartrefu a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys plant a theuluoedd, diogelu plant, atgyfeirio pobl i wneud ymarfer corff, a gwasanaethau cyflogaeth dan gymorth.
Wrth agor yr Orsaf Wybodaeth, dywedodd Jane Hutt:
"Mae hwn yn gyfleuster newydd gwych a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl Casnewydd gael gwybodaeth am wasanaethau, a hefyd gyngor amserol ar y cymorth sydd ar gael iddynt.
"Mae’r Orsaf Wybodaeth yn enghraifft dda o sut y gallwn wella gwasanaeth i’r cyhoedd trwy dynnu sefydliadau ynghyd i gydweithio, rhannu adnoddau, offer a swyddfeydd, a chynllunio gwasanaethau sy’n ymateb i anghenion pobl leol yn hytrach nag anghenion sefydliadau.
"Dw i’n arbennig o falch gweld bod technolegau newydd yn cael eu defnyddio i wella gwasanaethau i’r cyhoedd. Yr Orsaf Wybodaeth yw’r tro cyntaf i dechnoleg teleffoni Band Eang y Sector Cyhoeddus gael ei gosod at ddefnydd o’r fath yng Nghymru.
"Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i’w chwarae trwy helpu sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i lwyddo ar lai o gyllid, a hefyd drwy hyrwyddo datblygiadau a newidiadau arloesol a gweithio mewn partneriaeth. Mae’r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn ein helpu i wneud hynny.
"Dw i wrth fy modd ein bod wedi gallu rhoi cymorth i Orsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un, gan gynnwys rhoi’r £700,000 o’r gronfa Buddsoddi i Arbed, i’w helpu i wneud eu gwasanaethau’n fwy effeithlon ac yn haws eu defnyddio.
"Bydd y Gronfa’n parhau i helpu prosiectau sy’n gwella effeithlonrwydd yn sylweddol, a hefyd sy’n cyflwyno gwelliannau ehangach. Byddaf yn agor y gronfa eto maes o law i geisiadau ar gyfer prosiectau.
"Mae Gorsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un yn dangos y manteision a ddaw o edrych o’r newydd ar sut mae pobl yn defnyddio gwasanaethau lleol. Dw i’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn parhau i dyfu a datblygu, ac y gall rhannau eraill o Gymru ddysgu o’i lwyddiannau hyd yn hyn a’i lwyddiannau yn y dyfodol."











