Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cael gwared ar y rhwystrau i fusnesau bach

Heddiw cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, ei bod yn newid polisi caffael cyhoeddus Cymru i’w gwneud yn haws i fusnesau bach lleol gymhwyso ac ymgeisio am gontractau sector cyhoeddus.
Dydd Mercher 22 Chwefror 2012

Wrth gyhoeddi fersiwn derfynol y Gronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr neu “SQuID”, dywedodd y Gweinidog Cyllid fod y broses hon wedi’i datblygu ar y cyd gan is-adran Gwerth Cymru Llywodraeth Cymru a sector cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Jane Hutt:

"Bydd SQuID yn ein helpu i gael gwared ar y rhwystrau i gyflenwyr bach gan sicrhau bod holl fusnesau Cymru, waeth beth yw eu maint, yn cael y cyfle i ymgeisio am gontractau sector cyhoeddus.

"Yn y 10 mis diwethaf, mae SQuID wedi helpu busnesau yng Nghymru i ennill 45 o’r 67 o gontractau adeiladu neu leoliadau fframwaith, a allai fod yn werth £755m. Mae busnesau Cymru bellach yn ennill dwy ran o dair o’r holl gontractau adeiladu o’i gymharu ag un rhan o dair yn 2010. Mae hynny’n hwb mawr i’r economi.

"Mae swyddi a thwf economaidd yn parhau’n un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Gallwn ddefnyddio ein gwariant blynyddol ar gaffael cyhoeddus, sy’n werth £4.3 biliwn, i roi hwb enfawr i swyddi yng Nghymru. Dyna pam y byddwn ni’n gweithio’n barhaus i sicrhau bod ein prosesau yn cynnig gwir werth am arian."

Mae SQuID yn symleiddio’r broses ddewis, trwy ofyn set o gwestiynau cyffredin, ac mae’n egluro i’r cyflenwyr sut y bydd yr atebion yn cael eu defnyddio. Mae’n lleihau cost y broses a’r amser mae’n ei gymryd i’w chwblhau. Mae hefyd yn cael gwared ar y rhwystrau sy’n atal cyflenwyr bach rhag ymgeisio. Bydd y dechnoleg yn caniatáu i'r cyflenwr sydd am ymgeisio gadw ei atebion i’r cwestiynau cyffredin a’u hailddefnyddio.  

Cafodd SQuID ei dreialu’n drylwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru, ac mae dros 500 o brynwyr bellach wedi’u hyfforddi i’w ddefnyddio. Mae Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, pob un o’r 22 awdurdod lleol a llawer o brifysgolion wedi ymrwymo i’w ddefnyddio.  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gafael ar Gaffael Llywodraeth Cymru

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 22 Chwefror 2012 Yr economi Arwain Cymru allan o'r dirwasgiad Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i