Wrth ymweld â phrosiect "Ffordd yr Harbwr", clywodd y Gweinidog fod polisi "Budd Cymunedol" Llywodraeth Cymru wedi esgor ar swyddi i bobl leol ac wedi sicrhau mai cwmnïau o Gymru yw 91% o’r rheini sydd wedi ennill contract.
Bydd "Ffordd yr Harbwr" yn creu ffordd ddolen 4.8 cilometr at Gyffordd 38 (Margam) yr M4, gan gysylltu Port Talbot a’r dociau. Bydd yn ddolen hanfodol â’r Gorllewin, a hefyd â rhwydwaith traffyrdd y DU, y rhwydwaith cefnffyrdd a chyfandir Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £50m ar ei gyfer.
Mae’r contractwr datblygu, Costain, wedi mabwysiadu’r dull gweithredu Budd Cymunedol, sydd wedi’i ddefnyddio mewn perthynas â gwerth £3.4 biliwn o gontractau sector cyhoeddus dros y ddwy flynedd diwethaf.
Dywedodd Jane Hutt:
"Mae prosiect Ffordd yr Harbwr yn enghraifft wych o sut mae prosiectau adeiladu mawr yn gallu dod â llawer o fanteision i gymunedau lleol. Mae polisïau fel “Budd Cymunedol” yn cael effaith bositif iawn, a rhaid sicrhau bod yr arfer gorau hwn yn cael ei ddefnyddio gyda chynifer o brosiectau â phosibl. Mae caffael cyhoeddus yng Nghymru yn sicrhau newidiadau angenrheidiol, a bydd hynny’n parhau."
Mae dull gweithredu Budd Cymunedol wedi bod yn arbennig o effeithiol gyda phrosiectau adeiladu a thai. Mae’r dull hwn yn gofyn i gyflenwyr nodi sut y byddan nhw’n dod â manteision i’r gymuned y maen nhw’n gweithio ynddi - er enghraifft, mae’n bosibl y byddan nhw’n gallu cynnig hyfforddiant a chreu swyddi neu brentisiaethau i bobl yr ardal, a hefyd greu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi i gwmnïau lleol.
Dilynwyd hynt chwech o brosiectau cynnar nes iddynt gwblhau eu gwaith. Cyfanswm y contractau hynny oedd £146m, a chafodd bron 85% ohono ei wario yng Nghymru.
Talwyd £56m yn uniongyrchol mewn cyflogau i bobl yng Nghymru, a gwariwyd £68m (47%) gyda busnesau o Gymru, 82% ohonynt yn fusnesau bach a chanolig.
Cafodd 140 o bobl ddifreintiedig 8500 wythnos o brofiad gwaith a chafodd 44 o brentisiaid 7000 wythnos o hyfforddiant. At ei gilydd, amcangyfrifir i’r polisi hwn ddiogelu neu greu 2200 o swyddi yng Nghymru.
Roedd ffigurau newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos y bu gostyngiad o ddim ond 0.4% mewn swyddi yn y sector adeiladu yng Nghymru yn 2011, o’i gymharu â gostyngiadau o hyd at 15% yn rhannau eraill y DU.











