Bydd y Rhwydwaith Arweiniad Ariannol yn dod ag unigolion allweddol o gyrff cyhoeddus Cymru ynghyd er mwyn hyrwyddo cydweithio a rhannu syniadau arfer gorau.
Bydd tua 130 o arweinwyr ariannol sy’n cynrychioli ystod eang o sefydliadau, o awdurdodau’r heddlu i fyrddau iechyd, yn rhan o’r rhwydwaith a sefydlir gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Jane Hutt:
"Rydym yn benderfynol o wneud y gorau o bob punt sy’n cael ei gwario wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r rhwydwaith hwn yn ymrwymiad allweddol i helpu i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus.
"Yn ogystal â chefnogi gweithio ar y cyd ymysg arweinwyr ariannol, bydd yn helpu i ddatblygu dulliau arloesol o ymdrin â phroblemau cyffredin ar draws amrywiaeth o sefydliadau gwahanol er mwyn hyrwyddo arfer gorau a sicrhau gwell gwerth am arian. Rwy’n falch fy mod wedi gallu cefnogi’r fenter hon gyda chyllid yr UE."
Daw’r cyllid diweddaraf hwn wrth i’r Rhwydwaith baratoi i gyfarfod mewn cynhadledd genedlaethol ym Mhrifysgol Glyndŵr heddiw. Bydd y gynhadledd yn tynnu sylw at sut y gall y gymuned cyllid cyhoeddus yng Nghymru , drwy weithio mewn partneriaeth, ddatblygu gwelliannau ar y cyd o ran arweiniad ariannol.
Ymysg y gweithgareddau sydd ar y gweill gan y prosiect mae rhaglen arweinyddiaeth sy’n gweddnewid ac wedi’i theilwra’n benodol i anghenion Cymru er mwyn helpu i wella sgiliau allweddol. Hefyd, bydd y rhwydwaith yn parhau i weithio ar y cyd ar ddatblygiadau a gwelliannau allweddol drwy gynadleddau, digwyddiadau a hyfforddiant rhanbarthol a chenedlaethol yn ogystal â fforwm ar y we i ymgysylltu ag arweinwyr ariannol.
Dywedodd Umar Hussain, Cyfarwyddwr Cyllid Heddlu De Cymru, a gymerodd ran yn y rhaglen arweinyddiaeth beilot ac sy’n aelod allweddol o’r grŵp llywio ar gyfer y rhwydwaith:
"Mae gan Berson Cyllid Uwch pob sefydliad sector cyhoeddus rôl bwysig iawn i’w chwarae o ran hyrwyddo gwerth am arian a gwella gwasanaethau i ddinasyddion. Gall y rhwydwaith hwn a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu eu helpu i wneud gwahaniaeth go iawn."
Dywedodd un arall oedd yn cymryd rhan yn y peilot, sef Helen MacArthur, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Risg a Chyllid ym Mhartneriaeth Gwasanaethau ar y Cyd GIG Cymru:
"Mae cyfarfod â chydweithwyr cyllid mewn meysydd sector cyhoeddus eraill a deall eu blaenoriaethau a’u heriau o ran cyllido yn ein galluogi ni i gael dealltwriaeth gyffredin a rhannu arfer gorau a syniadau."











