Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi grant o £8m tuag at y prosiect gwerth 10m i adnewyddu bloc sy’n cynnwys labordai gwyddoniaeth uwch-dechnoleg, ystafelloedd cyfrifiaduron a llyfrgell hyblyg newydd. Bydd y disgyblion yn dechrau defnyddio’r cyfleusterau newydd ym mis Medi 2012.
Dywedodd Jane Hutt:
"Mae’n wych gweld sut mae Cyngor Abertawe wedi llwyddo i roi ein polisi Manteision Cymunedol ar waith mor effeithiol. Trwy ei siarter “Mwy na Brics a Morter” ei hunan, mae’r Cyngor wedi sicrhau mai pobl a busnesau lleol sydd wedi elwa o gael contractau a swyddi."
Trwy weithredu yn y modd hwnnw, mae’r prosiect wedi dod â’r manteision canlynol:
- enillwyd 93% o’r holl is-gontractau gan fusnesau o Gymru, pob un o’r rheini’n fusnesau bach neu ganolig;
- talwyd £1.3m yn uniongyrchol mewn cyflogau i ddinasyddion Cymru;
- cafodd 4 person, a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir cyn hynny, eu cyflogi am holl dymor y prosiect;
- cafodd dwy brentisiaeth a dwy hyfforddeiaeth eu cwblhau trwy’r prosiect;
- at ei gilydd, amcangyfrifir bod y prosiect wedi cynhyrchu buddsoddiad uniongyrchol gwerth cyfanswm o £17.1m yn economi Cymru a’r DU.
Dywedodd Jane Hutt:
"Dw i’n awyddus iawn i weld hyn yn digwydd ledled Cymru – pobl a chwmnïau lleol yn elwa bob tro y bydd arian cyhoeddus yn cael ei wario. Rhaid inni sicrhau bod pob punt ohono’n helpu’r economi leol.
"Dw i’n gobeithio y bydd ein cyrff cyhoeddus i gyd yn cymryd sylw o’r hyn y mae Ysgol Gymunedol Cefn Coed wedi’i gyflawni, gan fabwysiadu’r arferion da sydd wedi bod ar waith yn y prosiect hwn."











