Mae’r Ganolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol yn cyfrifo mai £7.20 yr awr yw’r ‘cyflog byw’ yn y DU y tu allan i Lundain. Dyma’r lefel isaf o gyflog sy’n sicrhau safon dderbyniol o fyw.
Bydd y Gweinidog yn gwahodd rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn y ‘cyflog byw’, gan gynnwys Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Sefydliad Joseph Rowntree, TUC Cymru ac Achub y Plant, i ystyried y mater.
Dywedodd Carl Sargeant:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo staff ar incwm isel gan ein bod ni’n gwybod y gall cyflog teg wneud pobl yn hapus ac yn gynhyrchiol yn eu gwaith. Mae hefyd yn ysgogi bywyd teuluol iach. Mae’r heriau parhaus o fynd i’r afael â ‘thlodi mewn gwaith’ yn bwysig i ni.
"Mae gweithwyr gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru a’r bobl sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru ymhlith y gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus sydd eisoes yn cael eu talu £7.20 yr awr neu fwy.
"Bydd y Grŵp Polisi yr wyf yn ei sefydlu yn archwilio ac yn ystyried y mater yn fanylach gan graffu ar fanteision ‘cyflog byw’ yng Nghymru."











