Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Grŵp Polisi i archwilio ac ystyried ‘Cyflog Byw’ i Gymru

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ei fod yn sefydlu Grŵp Polisi i archwilio’r posibilrwydd o ‘gyflog byw’ i Gymru.
Dydd Mercher 30 Mai 2012

Mae’r Ganolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol yn cyfrifo mai £7.20 yr awr yw’r ‘cyflog byw’ yn y DU y tu allan i Lundain. Dyma’r lefel isaf o gyflog sy’n sicrhau safon dderbyniol o fyw.

Bydd y Gweinidog yn gwahodd rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn y ‘cyflog byw’, gan gynnwys Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Sefydliad Joseph Rowntree, TUC Cymru ac Achub y Plant, i ystyried y mater.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo staff ar incwm isel gan ein bod ni’n gwybod y gall cyflog teg wneud pobl yn hapus ac yn gynhyrchiol yn eu gwaith. Mae hefyd yn ysgogi bywyd teuluol iach. Mae’r heriau parhaus o fynd i’r afael â ‘thlodi mewn gwaith’ yn bwysig i ni.

"Mae gweithwyr gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru a’r bobl sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru ymhlith y gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus sydd eisoes yn cael eu talu £7.20 yr awr neu fwy.

"Bydd y Grŵp Polisi yr wyf yn ei sefydlu yn archwilio ac yn ystyried y mater yn fanylach gan graffu ar fanteision ‘cyflog byw’ yng Nghymru."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 30 Mai 2012 Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i