Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant fod y cynigion hyn yn y Papur Gwyrdd yn anelu, yn yr hinsawdd ariannol anodd cyfredol, at ddiogelu arbenigedd gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus a chyflwyno bargen deg i weithwyr gwasanaeth cyhoeddus.
"Bydd y cynigion yn sicrhau mecanwaith a fydd yn cynnig cysondeb a chynllunio gwell o ran y gweithlu ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru," meddai.
"Eu nod hefyd yw cryfhau’r trefniadau cyfredol rhwng Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill sydd wedi’u datganoli mewn perthynas â gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus."
Y tri chynnig allweddol ar gyfer deddfwriaeth yw:
- Rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno canllawiau statudol ar faterion sy’n effeithio ar weithlu’r gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli;
- Rhoi dyletswydd ar sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli i hyrwyddo a chymhwyso gweithio mewn partneriaeth fel mae’n effeithio ar faterion y gweithl, a chydweithredu ar faterion sy’n ymwneud â’r gweithlu;
- Cymhwyso cod ymarfer i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli mewn perthynas â diogelu telerau ac amodau gweithwyr.
Dywedodd Carl Sargeant:
"Mae gan Lywodraeth Cymru agenda glir mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus: agenda o welliant parhaol sydd wedi’i hanelu at wasanaethau gwell i’r dinesydd a diogelu swyddi ein gweithwyr sector cyhoeddus.
"Bydd gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rôl dyngedfennol yn ein huchelgeisiau ar gyfer y gwelliant hwn. Ein nod yw cyflawni hyn drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill sydd wedi’u datganoli ac, yn dyngedfennol, bartneriaeth rhwng cyflogwyr a’r gweithwyr.
"Yn ogystal â rhoi cyfle inni roi gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus ar sail statudol gywir mae’r cynigion hyn yn ymwneud â chryfhau’r dull o weithio mewn partneriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei hyrwyddo ers blynyddoedd.
"Os ydym i ddatblygu dull o weithredu gwasanaethau cyhoeddus sydd â’i wreiddiau ledled Cymru gyfan, yna bydd gweithio’n well mewn partneriaeth a mwy o gydweithredu’n elfen graidd ar gyfer sicrhau mwy o symudedd i’r gweithlu."











