Roedd y Gweinidog yn siarad yn ‘Sector Cyhoeddus Cymru: Ar Agor am Fusnes’, sef digwyddiad a drefnwyd yng Nghaerdydd gan Lywodraeth Cymru i roi sylw i arferion da ym maes caffael, i drafod arferion gwael, ac i drafod sut i gael y cydbwysedd iawn er mwyn gwneud penderfyniadau doeth.
Gyda mwy na 250 o gynrychiolwyr yno o fyd busnes, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, dywedodd Jane Hutt:
"Mae ein ffordd o ddefnyddio £4.3 biliwn o arian cyhoeddus yn cael effaith enfawr ar swyddi a busnesau yng Nghymru. Rydyn ni eisiau gweld yr arian yma yn cael ei wario mewn ffordd sy’n cefnogi’r economi, yn creu swyddi ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel ymhob rhan o Gymru.
"I gefnogi ein blaenoriaeth i gael twf a swyddi, mae yna ymrwymiad i sicrhau bod prosesau caffael cyhoeddus yn syml, a bod contractau’n agored i bawb.
"Rydyn ni eisoes wedi symleiddio ein dull cyn-gymhwyso a’r gyfres o gwestiynau. Mae hyn yn bendant wedi helpu i wneud contractau’n fwy posib i gyflenwyr llai.
"Mae gwahaniaeth i’w weld eisoes yn y sector adeiladu. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae busnesau Cymreig – y rhai sydd â’u pencadlys yng Nghymru – wedi ennill 51 o’r 75 o gontractau neu fframweithiau a ddyfarnwyd, gwerth £780 miliwn ohonynt. Y flwyddyn cynt, dim ond 18 o ddyfarniadau y llwyddodd busnesau o Gymru i’w cael, felly mae’n amlwg fod hyn yn cael effaith yn barod."
Hefyd, pwysleisiodd y Gweinidog fod y polisi Manteision Cymunedol yn cael effaith. Mae’r polisi hwn yn rhoi amod mewn contractau fod yn rhaid i fusnesau amlinellu sut y byddan nhw’n sicrhau canlyniadau cymdeithasol megis hyfforddiant a chyflogaeth i bobl dan anfantais ac yn defnyddio cadwyni cyflenwi lleol.
Ychwanegodd Jane Hutt:
"Mae’r polisi eisoes wedi dod â manteision i unigolion a chwmnïau ledled Cymru. Allan o’r saith prosiect cyntaf i gael eu cwblhau, ac a oedd yn werth £186 miliwn, cafodd 87% ei wario yng Nghymru. Aeth £66 miliwn yn uniongyrchol ar gyflogau i bobl yn byw yng Nghymru, aeth £96 miliwn i fusnesau Cymreig, a chafodd rhyw 170 o bobl dan anfantais yng Nghymru werth 8,600 o wythnosau o brofiad gwaith. Dyma beth yr ydw i eisiau ei weld yn digwydd gyda phob contract mawr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
"Ond mae’n bwysig cofio na chawn ni fyth un ateb ar gyfer caffael yng Nghymru. Mae’n fater o gael strategaethau craff a datblygedig. Gyda rhai contractau, bydden ni eisiau denu buddsoddiad o’r tu allan, a gyda rhai eraill, bydden ni eisiau gweld microfusnesau llai yn cydweithio ac yn creu consortia."Trwy gyfuno’r dull caffael cywir gyda sector fusnes sy’n gryf ac yn uchelgeisiol, gellir gwneud llawer o ddaioni. Bydd busnesau nid yn unig yn gallu helpu’r sector cyhoeddus i godi safon ein gwasanaethau a’u gwneud yn fwy effeithlon – i’r busnesau iawn, mae’r sector cyhoeddus yn aml yn gallu rhoi’r llwyfan cadarn sydd ei angen er mwyn ymestyn i farchnadoedd y tu hwnt i Gymru.
"Byddwn i’n annog pawb i groesawu prosesau sy’n agored, yn dryloyw ac yn syml. Byddwn i’n eu hannog hefyd i fodyn agored i drafod, yn agored i heriau adeiladol ac yn agored i newid. Dyna sut y gallwn ni ddangos bod Cymru yn wir yn agored i fusnes."











