Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog newydd yn galw ar Gymru i newid un peth ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd

“Newid un peth” yw neges Jane Davidson heddiw wrth i’r Gweinidog newydd dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig droi ei sylw at y sialensau sy’n codi yn sgil y newid byd-eang yn yr hinsawdd.
Dydd Mawrth 05 Mehefin 2007

Iâ yn Toddi – Pwnc Llosg?  yw thema Diwrnod Amgylchedd y Byd eleni (dydd Mawrth 5 Mehefin) a hwn yw’r pwnc llosg wrth i bobl o bob rhan o’r byd edrych ar sut i leihau effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd.

Meddai’r Gweinidog, “Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd rwy’n galw ar bawb i newid un peth; dewiswch un rhan o’ch bywyd y gallwch ei newid er mwyn helpu i roi stop ar y newid yn yr hinsawdd.  Gallai hyn amrywio o ddewis bylbiau golau arbed ynni yn hytrach na’r rhai arferol, i feicio i’r gwaith yn lle gyrru.  Os yw pawb yn cytuno heddiw i newid un peth, gallwn ostwng yn sylweddol lefel y nwyon niweidiol sy’n cael eu gollwng gennym.”

Bydd y newid yn yr hinsawdd yn ganolog i weinyddiaeth Ms Davidson. “Dros y misoedd nesaf byddaf yn cyfarfod â sefydliadau allweddol i drafod sut y gall Cymru arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â’r sialensau hyn,” meddai.

“Rwyf am sicrhau ein bod yn adolygu pob un o’n camau gweithredu yn ôl ei effaith posibl ar  yr hinsawdd.”

Mae’r Gweinidog hefyd am wella mynediad at gefn gwlad fel rhan o’i rôl newydd.

“Gyda mwy a mwy yn dod yn ymwybodol o’r modd yr ydym yn effeithio ar yr amgylchedd, mae cefn gwlad yn bwysicach nag erioed.  Mwynhau’r amgylchedd yw’r ffordd orau o gryfhau ein hymrwymiad i’w warchod ac mae hyn yn cynnwys gweithredu yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.”

Mehefin 5, 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Yr amgylchedd a chefn gwlad Newid hinsawdd

Tagiau

Rhyngwladol 05 Mehefin 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i