Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Arddangos y goraw o Gymru yn yr unol daleithiau

Bydd y gorau o ddiwylliant Cymru yn cael ei arddangos mewn gŵyl bwysig yn Washington yn ystod dathliadau’r Diwrnod Annibyniaeth yn 2009. Bydd mwy na 100 o arlunwyr, perfformwyr ac ysgolheigion diwylliannol o Gymru yn croesi Môr Iwerydd i gymryd rhan yng Ngŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian.
Dydd Llun 05 Tachwedd 2007

Mae Cymru wedi’i dewis fel y wlad dan sylw ar gyfer y digwyddiad 10 diwrnod, sy'n denu dros filiwn o ymwelwyr yn rheolaidd.

Bydd cynrychiolwyr o Sefydliad Smithsonian yng Nghaerdydd heddiw [5 Tachwedd] i lofnodi Memorandwm Dealltwriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cadarnhau y bydd presenoldeb o Gymru yng Ngŵyl 2009. Byddant hefyd yn cwrdd â Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, i drafod y cynlluniau ar gyfer y digwyddiad.

Mae'r ŵyl yn dathlu traddodiadau diwylliannol cymunedau o bob cwr o'r Unol Daleithiau a'r byd. Mae'n arddangos y gorau o gelfyddydau cymunedol ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd treftadaeth i gymunedau.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn arwain y gwaith o ddatblygu'r rhaglen ar gyfer Cymru, a fydd yn dangos yr hanes a'r traddodiadau diwylliannol cyfoethog yng Nghymru. Yn ogystal â'r gweithgareddau diwylliannol, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio'r ŵyl hon i dargedu ei chynulleidfa ryngwladol er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd economaidd a ddaw i Gymru.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio'n agos â phartneriaid ar draws Cymru i ddatblygu rhaglen ddeinamig o berfformiadau, arddangosfeydd a thrafodaethau.

Dywedodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru:

Mae cymaint o bethau i fod yn falch ohonynt o ran diwylliant a threftadaeth Cymru, ac rwy'n sicr y bydd yr hyn sydd gennym i'w gynnig yn creu argraff ar bawb sy'n ymweld â'r ŵyl. Mae'n glod i ni ein bod wedi cael ein dewis fel y wlad dan sylw, ac mae'n dangos bod Cymru’n cael mwy a mwy o sylw ar draws y byd.  

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd rhaglen Cymru'n un o'r atyniadau a gaiff y sylw mwyaf yn y digwyddiad diddorol a lliwgar hwn. Rwy'n gobeithio y bydd yr ymwelwyr â'r ŵyl a fydd yn cael eu denu gan ddiwylliant Cymru yn mynd ati wedyn i drefnu gwyliau yma i fwynhau mwy o'n rhagoriaethau.

5 Tachwedd 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Diwylliant a chwaraeon Rhyngwladol

Tagiau

Rhyngwladol 05 Tachwedd 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i