Dengys y ffigurau diwethaf a gyhoeddwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi fod nifer yr allforion o Gymru wedi cynyddu 43 y cant ers datganoli ym 1999 – o gymharu â chynnydd cyfartalog o 26 y cant yn y DU yn ystod yr un cyfnod.
Bu cynnydd o 1.0 y cant yn yr allforion o Gymru ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mehefin o gymharu â’r pedwar chwarter blaenorol, i gyrraedd cyfanswm o £9.2 biliwn. (Bu gostyngiad o 11.6 y cant yn y ffigur cyfartalog ar gyfer y DU.) Cafodd y perfformiad yng Nghymru ei ysgogi gan gynnydd mawr yn yr allforion i farchnadoedd nad ydynt yn rhan o’r UE, megis yr Unol Daleithiau a Chanada - ac roedd hyn wedi hen ddigolledu am y gostyngiad bach yn yr allforion i gwsmeriaid o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones:
Mae perfformiad allforwyr Cymru yn galonogol - ac rwy’n benderfynol y bydd Adran yr Economi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu, nid yn unig i gefnogi’r allforwyr presennol, ond i helpu mwy o gwmnïau yng Nghymru i ddod o hyd i farchnadoedd newydd tramor ar gyfer eu nwyddau a’u gwasanaethau.
Mae cyfanswm y cynnyrch o Gymru sydd wedi’i werthu i Ogledd America wedi tyfu o £1.4 biliwn yn 2004 i £2.0 biliwn yn 2006. Yn ystod y tri mis diwethaf, roedd y gwerthiannau hyn wedi dod i gyfanswm o £569 miliwn, o gymharu â £484 miliwn ar gyfer yr un cyfnod y llynedd. Gogledd America yw’r farchnad bwysicaf o bell ffordd o safbwynt allforio o Gymru y tu allan i’r UE - prynodd Gogledd America nwyddau gwerth £5.7 biliwn o Gymru yn 2006.
Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mehefin, canran y cynnydd mewn allforion o Gymru oedd yr uchaf ond dau ymysg gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, gyda Gogledd Iwerddon a Gogledd-ddwyrain Lloegr yn gweld y cynnydd uchaf yn eu hallforion yn ystod yr un cyfnod.
Yn gyffredinol, mae cyfanswm yr allforion o Gymru wedi tyfu’n gryf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o £8,316 miliwn yn 2004, i £8,645 miliwn yn 2005, i’r ffigur diweddaraf, sef £9,159 miliwn ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2007.
O safbwynt y sectorau, roedd y gwerthiannau tramor mwyaf gwerthfawr yn deillio o’r meysydd trafnidiaeth a pheiriannau, a oedd yn cyfrif am allforion gwerth £3,432 miliwn y llynedd. Roedd gwerthiannau o nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu yn ystod yr un cyfnod yn werth £2,270 miliwn, roedd tanwydd yn werth £1,691 miliwn a chemegau yn werth £1,232 miliwn.
7 Medi 2007











