Cyn-ddiplomydd o Japan yw Mr Matsuura sydd wedi bod yn arwain UNESCO ers 2000. Ers ei benodiad, mae wedi diwygio’r sefydliad yn sylfaenol ac wedi datblygu ystod o raglenni, sy’n amrywio o hyrwyddo addysg sylfaenol i bawb i reoli dŵr croyw a gwarchod a chadw celfyddydau a diwylliannau byw.
Meddai’r Gweinidog wrth groesawu cynrychiolwyr i’r gynhadledd:
Gobeithiaf yn fawr y bydd y gynhadledd heddiw yn cyflawni ei hamcanion yn llawn.
Mae ei thema - Ffactorau sy’n Sbarduno Newid – yn dweud y cyfan ac mae’n gwbl gyson ag amcanion UNESCO. Rydym yn byw mewn cymdeithas fyd-eang sy’n newid – a hynny’n gyflymach nag erioed. Mae’r newidiadau hyn yn cael effaith sylfaenol ar gymdeithasau, economïau, yr amgylchedd a hyd yn oed ar wleidyddiaeth.
Gan fod trafodaethau heddiw yn canolbwyntio ar y thema hon, rwy’n hyderus y byddwch yn dod o hyd i atebion cyraeddadwy a fydd o fudd i ni yng Nghymru a Phrydain yn ogystal ag i UNESCO ledled y byd.
Bydd y gynhadledd yng Nghaerdydd yn cynnwys sesiwn ar ”addysg dan warchae” – astudiaeth fyd-eang o drais gan yr heddlu a milwyr yn erbyn staff, myfyrwyr, undebau a sefydliadau ym myd addysg.
Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan awdur yr adroddiad, Brendan O’Malley, a gyflwynodd ei ymchwil i gyn athro o Afghanistan, Safia Ama Jan, a fentrodd ei bywyd yn ystod teyrnasiad y Taliban drwy agor ysgol gudd i ferched yn ei chartref. Cafodd ei saethu a’i lladd tu allan i’w chartref yn Kandahar fis Medi'r llynedd.
Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal yng Ngwesty’r Holland House, Caerdydd rhwng 9am a 5pm ddydd Sadwrn.
13 Gorffennaf 2007











