Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymunedau Cymru’n anelu am aur ar Ddiwrnod Tlodi’r Byd

Noswyl Diwrnod Tlodi’r Byd ar 17 Hydref, lansir prosiect arloesol a fydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad mewn rhaglen beilot fyd-eang sy’n cydnabod y gefnogaeth i wledydd sy’n datblygu.
Dydd Mawrth 16 Hydref 2007

Dan nawdd Fframwaith Cymru dros Affrica Llywodraeth Cynulliad Cymru a than reolaeth Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) disgwylir i brosiect y Seren Aur ddwyn manteision sylweddol i gymunedau yng Nghymru yn ogystal ag i gymunedau yn Affrica.

Dan law’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at y cyfraniad a wneir gan bobl y pum tref a lwyddwyd i gael eu dewis i dreialu’r cynllun cyswllt gyda’u partneriaid yn Affrica. Ymunir â hwy yn y Senedd gan gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru sy'n gobeithio ymuno â rhwydwaith newydd y Seren Aur er mwyn datblygu cysylltiadau ag Affrica.

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, fod pobl Cymru yn enwog am eu hagwedd ryngwladol ac am eu hawydd i helpu’r rheiny mewn mannau arall o’r byd sy’n llai na ffodus na ni sy'n byw yng Nghymru.

Ychwanegodd:

‘Mae datganoli wedi cryfhau’r diddordeb hwnnw yn y byd mawr y tu allan i Gymru.  Mae’n bleser gennyf ddweud fod y prosiect arloesol hwn yn dystiolaeth o’r diddordeb hwnnw yng ngweddill y byd.

‘Mae miloedd o bobl, dros Gymru gyfan, yn gweithredu yn eu ffordd eu hunain i gefnogi datblygu rhyngwladol.  Trwy’r Fframwaith Cymru dros Affrica, mae’r bobl hynny yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cyfandiroedd tlawd yn cael cyfle go iawn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fod yn rhan ac i gael y gefnogaeth broffesiynol briodol.

‘Mae mwy na biliwn o bobl yn y byd yn byw ar lai na $1 y diwrnod, ac mewn byd lle gwelir mwy a mwy o gyfoeth, mae lefelau dioddefaint a gwastraff potensial o’r fath yn annerbyniol.  Wrth gysylltu cymunedau Cymru ac Affrica yn y ffordd hon a helpu i ddatblygu cynlluniau lleihau tlodi ac addysg, rydym yn dod â’r gymuned fyd-eang yn nes ac yn nes at ei gilydd.  Mae’n ein helpu hefyd i sylweddoli y bydd cael gwared ar dlodi yn creu byd gwell i bawb.

‘Bydd y rhaglen fendigedig hon yn helpu i sicrhau bod croeso twymgalon yng nghymoedd Cymru ac yng Nghwm Great Rift yn Affrica.’

Gyda’i gilydd, byddant yn cyfrannu at greu fframwaith safonau ‘Seren Aur’ ac arferion da o ran cysylltu, yn unol â Nodau Datblygu’r Mileniwm y CE ar leihau tlodi. Datblygir cynllun peilot Cymru gyda chefnogaeth y CE, i lunio model ar gyfer cydnabod a lledaenu partneriaethau cymunedol o safon sy’n mynd i’r afael â materion megis masnach deg a chyfiawn, newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, hawliau plant a chynhwysiant cymdeithasol.

Dywedodd Rheolwr Prosiect y Seren Aur, Craig Owen:

Mae datblygu byd-eang yn ymddangos yn her anodd iawn, ond pwrpas y prosiect hwn yw gwireddu'r her honno drwy alluogi cymunedau yng Nghymru ac Affrica Is-Sahara i gysylltu, rhannu syniadau a chredoau, mynd i'r afael â stereoteipiau a datrys pethau sy'n sialens i'r ddwy ohonynt.

Dywedodd Dr. Geoff Lloyd, Cadeirydd PONT, dolen Pontypridd – Mbale (Uganda):

Mae’r Ddolen wedi bod yn brofiad newid-bywyd i dros 120 o bobl o wahanol gefndiroedd – meddygon, athrawon, peirianwyr, eglwysi, pobl busnes - sydd wedi ymwneud â rhaglenni cyfnewid ag Uganda, gan roi cyfle i bobl ddatblygu’n broffesiynol, cyfnewid sgiliau a chael addysg gyfoethog yma yn Rhondda Cynon Taf.

Mae wedi rhoi cyfle inni hefyd gael effaith uniongyrchol ar dlodi drwy hyfforddi gweithwyr iechyd, darparu rhwydi malaria a sefydlu Cynghrair yn Erbyn Tlodi yn y ddwy gymuned - gan wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl a ffrindiau yr ydym yn eu hystyried yn gydradd.  Mae gennym gymaint i’w ddysgu ganddyn nhw ag sydd ganddyn nhw i’w ddysgu gennym ni.

Yn ystod y lansio hefyd, bydd cerddoriaeth gan y grwp o Gaerdydd, Love Africa, ac areithiau gan Brif Weithredwr WCVA, Graham Benfield, OBE, Rheolwr Prosiect y Seren Aur, Craig Owen a Chyfarwyddwr ABESU, Dolen Cymru - Zambia, Mutale Nyoni.

Mae prosiect y Seren Aur wedi cael sêl bendith Archesgob De Affrica Desmond Tutu.

Mae’r gwaith rydych chi’n ei wneud yng Nghymru ac yn Affrica gyda Nodau Datblygu’r Mileniwm yn wych,’ meddai.  ‘Cadwch y tân ynghyn, ac fe newidiwch y byd!

Nodiadau i olygyddion:

• Cynllun peilot yw Prosiect y Seren Aur rhwng Tasglu Nodau Datblygu’r Mileniwm Cymru (aelodau isod) a BUILD UK (Codi Dealltwriaeth drwy gyfrwng Cysylltiadau Rhyngwladol ar gyfer Datblygu), a noddir gan fframwaith Cymru dros Affrica, ac fe’i rheolir a’i gyflwyno gan WCVA (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru). Mae’r Tasglu hefyd yn cynnwys y Cyngor Prydeinig, ContinYou, Dolen Cymru Wales - Lesotho Link, Rhwydwaith Ymchwilwyr Datblygu Cymru, Oxfam Cymru, Achub y Plant Cymru, Cyngres yr Undebau Llafur Cymru, Dolen Somaliland Cymru, Cymdeithas Cynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru (WACVC), Cyngor Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), a Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

• Dyma gymunedau peilot Prosiect y Seren Aur: Aberhonddu – Molo (Kenya), Brynycwm (Ardal y Fenni) – Yirgacheffe (Ethiopia), Crymych (Sir Benfro) – Hlotse (Lesotho), Y Gelli Gandryll – Timbuktu (Mali), Pontypridd – Mbale (Uganda)


• Dyma’r Prosiectau Cysylltiedig: Blaenau Gwent – Endonisidai (Kenya), Dolen Iechyd Caerdydd a’r Fro  – N’djamena (Chad), Conwy – Ynys Mafia (Tanzania), Powys – Rhwydwaith MDG, Dolen Somaliland – Cymru, Tŷ Ddewi – Mafeteng (Lesotho), Abertawe - Paynesville (Liberia), Abertawe – Swaziland, Tor-faen / Casnewydd – Masvingo (Zimbabwe), Ynys Môn – Matsieng (Lesotho)

• Bydd Prosiect y Seren Aur yn cael ei lansio ar-lein o ddydd Mawrth, 16 Hydref ymlaen yn www.goldstarcommunities.org.uk. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rheolwr y Prosiect, Craig Owen yn WCVA  ar 029 2043 1700.

Deddf Diogelu Data 1998  Cedwir a phrosesir manylion (enw, cyfeiriad, mudiad, ffôn, ffacs, e-bost) cysylltiadau'r wasg ar gyfrifiadur gan WCVA.  Defnyddir y wybodaeth gan WCVA i hybu’r sector gwirfoddol yng Nghymru.  Datgelir y manylion cyswllt i drydydd partïon er mwyn cynorthwyo gyda'r gwaith hyrwyddo hwn.

16 Hydref 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Datblygu cynaliadwy Rhyngwladol

Tagiau

Rhyngwladol 16 Hydref 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i