Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwirfoddolwyr o Gymru yn mynd i Affrica

Heddiw [13 Chwefror 2008], cyfarfu Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, â dau wirfoddolwr o Gymru, sy’n gadael y wlad yr wythnos hon i weithio yn Affrica am ddau fis, fel rhan o raglen ryngwladol a datblygu sgiliau newydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Dydd Mercher 13 Chwefror 2008

Mae Margaret Griffiths a Polly Ferguson wedi’u dewis fel rhan o’r grŵp cyntaf o saith gwirfoddolwr o Gymru sy’n teithio i Affrica Is-Sahara i gymryd rhan yn y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol, a gyllidir gan fframwaith Cymru o Blaid Affrica. Bydd y gwirfoddolwyr yn treulio wyth wythnos yn gweithio gyda’r gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghamerŵn a Zambia, yn rhannu arferion gorau, sgiliau a phrofiadau.Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan gyda Margaret Griffiths ac Polly Ferguson

Mae Margaret Griffiths o Bontyclun yn gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru fel Arbenigwr Perfformiad, a Polly Ferguson o Gaerdydd yn gweithio i Lywodraeth Cynulliad Cymru fel Swyddog Nyrsio yn Swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio. Bydd y ddwy yn gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghamerŵn, i geisio dod o hyd i ffyrdd o wella eu gwasanaethau.

Wrth gwrdd â Polly a Margaret cyn iddynt fynd i Gamerŵn yn nes ymlaen yr wythnos hon, dywedodd Prif Weinidog Cymru:

Rydyn ni yng Nghymru yn enwog am ein dymuniad i helpu pobl mewn rhannau eraill o’r byd sy’n llai ffodus na ni. Mae’r rhaglen datblygu sgiliau hon yn enghraifft wych o’r hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni drwy fframwaith Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y rhaglen hon yn cynnig manteision i Gymru ac Affrica. Nid yn unig bydd gwirfoddolwyr Cymru yn gallu rhannu sgiliau pwysig ac arferion gorau gyda’u tebyg yn Affrica, ond bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn cael profiad gwerthfawr a fydd yn eu helpu yn eu swyddi pan ddôn nhw’n ôl i Gymru.

Mae’r lleoliadau wyth wythnos yn cael eu rheoli gan Reoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru ar y cyd â mudiad datblygu rhyngwladol Gwasanaethau Gwirfoddol Dramor (VSO), i roi cyfleoedd i reolwyr yn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru wella eu sgiliau tra’n gweithio ar brosiectau datblygu hirdymor yn Affrica Is-Sahara. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.cymru.gov.uk/rhngcc neu ffoniwch 029 2068 1343.

13 Chwefror 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Datblygu cynaliadwy Rhyngwladol

Tagiau

Rhyngwladol 13 Chwefror 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i