Heddiw mae’r Gweinidog yn mynd i’r drafodaeth ragarweiniol olaf ym Marcelona ynghylch cytuniad newydd y Cenhedloedd Unedig ar yr hinsawdd cyn yr Uwchgynhadledd yn Copenhagen ym mis Rhagfyr.
Mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd yn cynrychioli Cymru a rhanbarthau ar draws y byd wrth gyflawni’i rôl fel Cydgadeirydd Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy (nrg4SD). Mae’r grŵp yn pwysleisio rôl llywodraethau rhanbarthol mewn datblygu cynaliadwy.
Meddai Ms Davidson:
“Bydd llywodraethau rhanbarthol fel Llywodraeth Cynulliad Cymru yn chwarae rhan ganolog i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni’n dod at ein gilydd ac yn mynegi’n teimladau’n gryf i sicrhau bod lleisiau’r rhanbarthau yn cael eu clywed yn Copenhagen. Bydd y trafodaethau hyn ym Marcelona yn pwysleisio’r neges hon.
“Fel rhanbarthau mae gyda ni lawer i’w gynnig a llawer o gyfrifoldebau i’w hysgwyddo er mwyn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’n bwysig nawr ac yn y dyfodol i bawb sy’n ceisio mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ymgysylltu â phob lefel o lywodraeth, boed ar lefel wladwriaethol neu ranbarthol.
“Rydyn ni’n barod iawn i weithio gydag eraill, gartref ac yn rhyngwladol i fwrw ymlaen â’r agenda hollbwysig hon. Dydy unrhyw gytundeb newydd ddim yn gallu fforddio peidio â chynnwys llywodraethau rhanbarthol ac is-genedlaethol. Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n dangos ein harbenigedd a’n brwdfrydedd wrth ymgymryd â’r gwaith caled sydd i ddod.”
Mae Cymru eisoes yn gwneud ei rhan drwy ei hymrwymiad i ryddhau 3% yn llai o allyriadau'r flwyddyn o 2011 ymlaen, gan arwain at ostyngiad o 80% cyn 2050.
Bydd Jane Davidson yn cadeirio digwyddiad yn y trafodaethau o’r enw “Thinking Global, Acting Local: the Vital Role of the Regions” gyda siaradwyr o Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig, Algeria, Catalonia, Aragon a Cantabria.
5 Tachwedd 2009











