Cyfarfu’r ddau wleidydd blaenllaw o ran eu diddordeb yn yr amgylchedd mewn derbyniad a drefnwyd gan Lywodraethwr Schwarzenegger yn yr uwchgynhadledd i drafod y newid yn yr amgylchedd yn Nenmarc.
Dywedodd Ms Davidson:
“Gyda Llywodraethwr Schwarzenegger newydd dderbyn gwobr i gydnabod arweiniad California ar yr hinsawdd roeddwn i’n hynod falch ei fod wedi canmol Cymru am y gwaith rydym ni’n ei wneud ynghylch yr agenda hwn gan ddweud bod yn rhaid i ni i gyd, un ac oll, weithio gyda’n gilydd.
“Mae’n amlwg o’r ymrwymiadau y mae llywodraethau rhanbarthol ar draws y byd wedi’u gwneud ein bod ar y blaen o ran gosod yr agenda a’r gobaith yw y bydd ein hesiampl yn golygu y bydd modd dod i gytundeb erbyn diwedd yr wythnos.”
Cyfarfu Llywodraethwr Schwarzenegger swyddogion Llywodraeth y Cynulliad hefyd. Dywedodd wrthynt:
“Daliwch ati gyda’r gwaith da a’ch ymdrechion i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.”
Mae Ms Davidson yn yr uwchgynhadledd yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy (nrg4SD) a Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd yng Nghymru sydd wedi cymryd rhan arweiniol wrth ddangos yr hyn y gall llywodraeth isgenedlaethol ei gyflawni. Roedd yn gyfle i Ms Davidson a Llywodraethwr Schwarzenegger gyfnewid arferion da gyda chenedlaethau a rhanbarthau eraill.
Daw’r cyfarfod yn sgil presenoldeb Ms Davidson mewn trafodaethau ar y newid yn yr hinsawdd a drefnwyd gan y Grŵp Hinsawdd ym mis Hydref lle’r oedd Llywodraethwr Schwarzenegger yn bresennol.
Yno, rhoddodd anerchiad gerbron arweinwyr gwleidyddol o bob cwr o’r byd ar y rôl ganolog oedd i ranbarthau a gwledydd bach fel Cymru wrth geisio atal y newid andwyol i’r hinsawdd. Yn ogystal â’r arweinwyr rhanbarthol, roedd swyddogion amgylcheddol allweddol o weinyddiaeth yr Arlywydd Obama yn bresennol hefyd.
16 Tachwedd 2009











