Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn hyrwyddidog rol llywodraethau rhanbarthol o ran brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd

Roedd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, ym Mharis heddiw i drafod y rôl allweddol sydd gan lywodraethau rhanbarthol i'w chwarae yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.
Dydd Iau 04 Mawrth 2010

Roedd y Gweinidog mewn uwchgynhadledd bwysig yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Cyd-gadeirydd nrg4SD (y rhwydwaith llywodraethau rhanbarthol dros ddatblygu cynaliadwy) a chyfarfu â Gweinidogion dros yr Amgylchedd, o Ewrop a thu hwnt,  sydd wedi ailddatgan eu hymrwymiad i gydweithio â rhanbarthau eraill fel rhan o'u hymdrechion parhaus i leihau allyriadau carbon.

Y cyfarfod ym Mharis yw'r cyfarfod swyddogol cyntaf rhwng y Rhanbarthau a'r Gwladwriaethau Ffederal. Mae'n dilyn yr Uwchgynhadledd yn Copenhagen ar y Newid yn yr Hinsawdd lle enillodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gydnabyddiaeth i’r camau gweithredu y mae llywodraethau rhanbarthol yn eu cymryd ar y newid yn yr hinsawdd, a lle cafodd ei chanmol am weithgareddau a pholisïau newid hinsawdd yng Nghymru.

A hithau'n siarad cyn y cyfarfod, dywedodd y Gweinidog:

"Rwy'n credu y gall cydweithio rhanbarthol ein helpu i gymryd camau mawr ymlaen yn ein brwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

"Bydd y cyfarfod heddiw yn ein galluogi i adeiladu ar ein llwyddiannau yn Copenhagen lle llwyddon ni i sicrhau cydnabyddiaeth fyd-eang am bwysigrwydd llywodraethau rhanbarthol o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni'n gallu mynd ati nawr, gyda'n gilydd ac yn unigol, i lywio a dylanwadu ar yr agenda newid hinsawdd.

"Er nad oedd datganiad terfynol Copenhagen yn adlewyrchu’r cytundeb teg, uchelgeisiol a rhwymedigol yn gyfreithiol sydd ei angen ar y byd, mae'n rhaid ei ystyried fel man cychwyn a chanolbwyntio yn gadarnhaol ar y camau nesaf. Mae'r rhanbarthau a'r gwladwriaethau yn barod i weithredu ar y cyd."

Cynrychiolwyd rhanbarthau eraill yn y cyfarfod gan gynnwys Califfornia, Québec, Aragon, Gwlad y Basg, Bafaria, Baden Wurttemberg, Llydaw, Catalonia, Ile de France, Gogledd y Rhein Westphalia, Rhône-Alpes, yr Alban, Twsgani a Wallonia.

4 Mawrth 2010

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Newid hinsawdd

Tagiau

Rhyngwladol 04 Mawrth 2010 Yr Amgylchedd Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i