Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Canmol Cymru am ei hymdrechion i wella gofal iechyd yn Affrica

Mae ymdrechion gweithwyr iechyd proffesiynol o Gymru i helpu rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn Affrica yn cael eu dathlu
Dydd Iau 08 Gorffennaf 2010
Y Cwnsler Cyffredinol John Griffiths a Biku Ghosh, Cadeirydd Grwp Cysylltiadau Iechyd Cymru dros Affrica, gydag ambiwlans beic modur a gynlluniwyd gan eRanger.
Y Cwnsler Cyffredinol John Griffiths a Biku Ghosh, Cadeirydd Grwp Cysylltiadau Iechyd Cymru dros Affrica, gydag ambiwlans beic modur a gynlluniwyd gan eRanger.

Mae staff y GIG ledled Cymru wedi bod yn gwirfoddoli i roi gofal a chymorth i gymunedau yn Affrica fel rhan o fenter Llywodraeth y Cynulliad, Cymru o blaid Affrica.

Mae mwy na 23 o bartneriaethau wedi'u datblygu rhwng ysbytai Cymru a lleoliadau gofal iechyd yn Affrica ers i'r fenter gael ei lansio yn 2006.

Ymhlith y rhain mae'r cysylltiadau y mae staff y GIG yng Ngwent, y Gelli Gandryll a Phowys wedi'u gwneud i helpu i ddarparu unedau gofal arbennig i fabanod, hyfforddiant ar gyfer bydwragedd a chyfleusterau iechyd yn Gambia, Ethiopia, Sierra Leone a Lesotho, gan leihau nifer y menywod a'r babanod sy'n marw yn ystod beichiogrwydd ac wrth roi genedigaeth bob blwyddyn.

Mae'r Cwnsler Cyffredinol, John Griffiths, wedi talu teyrnged i'r staff sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect arloesol.

Wrth siarad yng nghynhadledd Grŵp Cysylltiadau Iechyd Cymru o blaid Affrica – sy'n dod â staff y GIG, ysgolheigion a sefydliadau gwirfoddol at ei gilydd – dywedodd Mr Griffiths:

"Mae Llywodraeth y Cynulliad yn falch iawn o'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru i helpu eu cymheiriaid yn Affrica. Rydyn ni wedi bod yn hapus i ddarparu £50,000 bob blwyddyn ar gyfer gweithgareddau'r cysylltiadau drwy ein hadran iechyd, a chymorth ar gyfer Grŵp Cysylltiadau Iechyd Cymru o blaid Affrica sy'n ymroddedig iawn.

"Dw i'n falch iawn o gael helpu i ddadorchuddio ail Adroddiad Blynyddol Grŵp Cysylltiadau Iechyd Cymru o blaid Affrica, sy'n cynnwys casgliad rhagorol o'r hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Un enghraifft sy'n arbennig o nodedig yw'r ymrwymiad sydd wedi'i wneud i ddatblygu a gwella gwasanaethau gofal llygaid yn Ethiopia, ac yng Ngogledd Cymru yn ei dro, drwy rannu gwybodaeth glinigol, sgiliau ac arferion gweithio.

"Mae pob un o'r gweithgareddau hyn yn arbennig gan nad dim ond Affrica maen nhw’n helpu. Partneriaethau ydyn nhw sy'n gwneud lles i bawb.

"Rydyn ni'n gwybod bod yr unigolion o Gymru sy'n cymryd rhan yn y gwaith hwn yn dysgu ac yn datblygu sgiliau newydd y maen nhw'n dod â nhw yn ôl i'w gweithleoedd a'u sefydliadau ledled Cymru.”

Mae'r gynhadledd yn cynnwys cyfres o weithdai i edrych ar ffyrdd o ddefnyddio cysylltiadau Cymru i wella iechyd mamau a mynd i'r afael â chlefydau sy'n peryglu bywyd sy'n gyffredin mewn cymunedau difreintiedig yn Affrica, megis HIV, AIDS a malaria.  

Nod gweithdai eraill yw mynd i'r afael â materion megis tlodi a newyn, cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn lleoliadau iechyd, ac iechyd plant, a allai olygu bod myfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru yn cael cymryd rhan mewn cysylltiadau iechyd yn y dyfodol.

Ychwanegodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Tony Jewell:

"Mae llawer o weithwyr iechyd proffesiynol, unigolion a sefydliadau ledled Cymru yn gwneud ymdrech enfawr i helpu gweithwyr gofal iechyd yn Affrica ac i gryfhau'r gwaith o ddarparu gofal iechyd i rai o'r cymdeithasau tlotaf yn Affrica.

"Hyd yn hyn, mae dros 500 o weithwyr iechyd proffesiynol  o Gymru wedi gwirfoddoli i roi eu hamser a'u harbenigedd i'r cysylltiadau iechyd. Ac nid Affrica yn unig sy'n elwa ar y cysylltiadau hyn.

"Mae gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n cymryd rhan yn y gwaith hwn yn meithrin rhagor o sgiliau clinigol ac yn dysgu sut i feddwl yn greadigol mewn sefyllfaoedd lle mai dim ond hyn a hyn o adnoddau sydd ar gael.

"Maen nhw'n cael profiad o hyfforddi, arwain, rheoli sefydliadau a datrys problemau yn ogystal â gwell dealltwriaeth o glefydau trofannol a chyflyrau cronig."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Rhyngwladol 08 Gorffennaf 2010 Masnach deg Gwella iechyd Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i