Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ffermwyr ledled y byd yn cyfarfod yng Nghymru i hyrwyddo Masnach Deg

Heddiw, croesawodd y Cwnsler Cyffredinol ffermwyr o Gymru, Affrica, Asia ac America Ladin i'r Fenni er mwyn trafod y materion sy’n ymwneud â masnach deg a bwyd cynaliadwy.
Dydd Iau 16 Medi 2010

Croesawodd John Griffiths y sawl a oedd yn bresennol i'r Uwchgynhadledd ar Fasnach Deg, Bwyd Cynaliadwy a'r Newid yn yr Hinsawdd, y Drafodaeth Fwyd Fawr, a gafodd ei chynnal heddiw (dydd Iau 16 Medi) yng Ngŵyl Fwyd enwog y Fenni.

Meddai'r Cwnsler Cyffredinol:

"Penderfynon ni yng Nghymru sawl blwyddyn yn ôl ei bod yn bwysig cefnogi Masnach Deg drwy brynu cynnyrch gan wledydd sy'n datblygu er mwyn hyrwyddo datblygu cynaliadwy rhyngwladol.

"Roedden ni'n falch iawn o gael gwybod mai Cymru oedd Gwlad Masnach Deg gyntaf y byd ddwy flynedd yn ôl.

"Nid cyrraedd y nod hwn unwaith ac am byth oedd hyn inni, mae’n daith ac yn ymrwymiad parhaus, felly rydyn ni wedi parhau i helpu twf y symudiad Masnach Deg yng Nghymru."

Rhaglen Cymru o blaid Affrica Llywodraeth Cynulliad Cymru a ariannodd yr Uwchgynhadledd, sy'n anelu at roi lle canolog i Gymru yn y drafodaeth ynglŷn â chyflenwadau bwyd rhyngwladol cynaliadwy yn y dyfodol.

Bydd yr Uwchgynhadledd yn sicrhau bod pobl yn deall y problemau y mae ffermwyr Cymru yn eu hwynebu o ran cyflenwi bwyd, a byddan nhw'n cael y cyfle i gael rhagor o wybodaeth am y problemau sy'n wynebu eu cynhyrchwyr ym mhob rhan o'r byd yn y dyfodol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Rhyngwladol 16 Medi 2010 Masnach deg Bwyd a physgodfeydd Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i