Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Prosiect gwerth $1 filiwn i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn cael ei lansio yn Affrica

Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi lansio prosiect gwerth $1 filiwn yn Uganda i helpu i arbed bywydau trwy frwydro yn erbyn effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn y wlad.
Dydd Iau 28 Hydref 2010

Mae’r prosiect tair blynedd Dull Tiriogaethol o Newid Hinsawdd (TACC) yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn partneriaeth â Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig ac mae’n cael ei ariannu gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol y Deyrnas Unedig.

Bydd y prosiect TACC yn cryfhau ymhellach y cysylltiad rhwng Cymru a rhanbarth Mbale sydd â pherthynas hir rhyngddynt bellach yn rhan o raglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ym mis Mawrth, collodd dros 300 o bobl eu bywydau yn Mbale yn Nwyrain Uganda oherwydd tirlithriad.  Y rheswm dros y trychineb hwn oedd datgoedwigo a glaw anarferol o drwm.

Ffermwyr hunangynhaliol yw’r mwyafrif o’r boblogaeth yn y rhan hon o Mbale ac felly, maent yn agored iawn i effeithiau newidiadau ym mhatrwm y tywydd.

Nod TACC yw cynyddu fforestydd a helpu cymunedau lleol yn y rhanbarth i addasu i’r newid yn yr hinsawdd.  Nid yn unig bydd yn helpu pobl Mbale i ddeall beth mae’r newid yn yr hinsawdd yn ei olygu iddyn nhw ond bydd yn eu helpu i fanteisio ar y camau gweithredu fydd yn eu cynorthwyo i ymdopi hefyd.

Mae gwaith i blannu miliwn o goed eisoes wedi dechrau'
r wythnos hon er mwyn cynnal ardal o fforestydd trofannol yn Affrica sydd yr un maint â Chymru. Nid yn unig bydd y coed hyn yn amsugno carbon ond byddant yn darparu cysgod i gnydau hefyd.

Dywedodd John Griffiths, y Cwnsler Cyffredinol:  

"Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Ranbarthol Mbale i’w cynorthwyo i allu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

"Mae pobl yng Nghymru yn gweithio’n galed i gefnogi’r frwydr yn erbyn tlodi byd-eang ac maent yn awyddus i helpu pobl yn Affrica Is-Sahara i greu gwell cyfleoedd bywyd i’w hunain.  Ar yr un pryd, mae’r manteision i bobl Cymru yn sylweddol hefyd.  Trwy gydweithio, rydym yn gwybod y gall cymunedau a sefydliadau ar lawr gwlad yng Nghymru ac Affrica wneud gwahaniaeth wrth fynd i’r afael â’r heriau gwirioneddol sy’n wynebu ein byd heddiw."

Dywedodd Apollo Mwenyi, un o gydgysylltwyr prosiect Uganda:

"Rydym yn hapus iawn i weithio gyda Chymru.  Rwy’n gwybod bod gan y ddwy wlad lawer i’w ddysgu oddi wrth ei gilydd.
"Rwyf am i bobl Cymru ddeall nad rhywbeth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol yw newid yn yr hinsawdd – mae’r newid yn digwydd nawr.  Mae’r tywydd wedi newid yn sylweddol, mae’r tymheredd yn uwch ac mae mosgitos a malaria bellach mewn ardaloedd oedd gynt yn rhy oer."

 

Rhannu

Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Rhyngwladol 28 Hydref 2010 Yr Amgylchedd Masnach deg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2012
Ll M M I G S S
<< Ebr   Meh >>
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i