Roedd John Griffiths yn siarad yn nigwyddiad a gynhaliwyd gan the African Mothers Foundation, lle bu’n sôn am y gwahaniaeth y mae Cymru wedi’i wneud.
Meddai’r Cwnsler Cyffredinol:
"Er mai gwlad fach yw Cymru, rydym yn ymwybodol o’n dyletswyddau moesol fel dinasyddion y byd ac yn awyddus i gyfrannu at ddatblygiadau rhyngwladol a chyfiawnder cymdeithasol ledled y byd.
"Dyna pam mae Llywodraeth Cynulliad Cymru mor falch o’i rhaglen Cymru o Blaid Affrica a’r prosiectau a mudiadau yr ydym yn eu cefnogi – fel the African Mothers Foundation.
"Trwy brosiectau fel y rhain, gallwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol."
Roedd Mr Griffiths yn siarad mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn Neuadd Sir Caerdydd nos Wener.
Crëwyd African Mothers Foundation International (AMFI) yn 2008, ar ôl i’r Sylfaenydd a’r Cyfarwyddwr, Bekezela (Becky) Nsingo ymweld ag ardal wledig yn Zimbabwe. Gwelodd sefyllfa’r menywod a’r merched ifanc yno, yn enwedig y gweddwon a’r plant sydd wedi’u gadael yn amddifad gan HIV/AIDS.
Cysylltodd AMFI â Cyswllt Cymunedau Cymru Affrica, sef cynllun a ariennir gan Raglen Cymru o Blaid Affrica, gan ddatblygu cysylltiadau rhwng cymunedau yng Nghymru ac Affrica. Mae menywod o’r ddwy gymuned yn dysgu sgiliau oddi wrth ei gilydd.
Cynhaliodd yr elusen y digwyddiad dros y penwythnos i godi arian i adeiladu ysgol, ward mamolaeth a llyfrgell gymunedol yn Zimbabwe.
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sioe modelu dillad o Affrica, comedi, barddoniaeth a raffl gyda gwobrwyon a oedd yn cynnwys llyfr wedi’i lofnodi gan Brif Weinidog Cymru.











