Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymru yn talu teyrnged i’r rheini a gollodd eu bywydau mewn daeargryn

Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi cynrychioli Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn gwasanaeth coffa i’r rheini a gollodd eu bywydau yn naeargryn Christchurch.
Dydd Llun 28 Mawrth 2011

Cynhaliwyd y gwasanaeth yn Abaty Westminster y penwythnos hwn.

Ddydd Mawrth 22 Chwefror, tarodd daeargryn grymus ail ddinas fwyaf Seland Newydd. Cyrhaeddodd y daeargryn 6.3 ar raddfa Richter.

Bellach, amcangyfrifir bod 165 o bobl wedi colli eu bywydau yn y drasiedi sydd wedi effeithio ar holl gymuned Christchurch.

Anfonodd y Prif Weinidog eiriau o gydymdeimlad o Gymru i Brif Weinidog Seland Newydd, John Key, ar y pryd. Roedd y digwyddiad gymaint â hynny’n fwy dychrynllyd oherwydd ei fod yn dilyn y ddamwain ym mhwll glo Pike River, lle collodd 29 o lowyr eu bywydau.

Anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wyth o ddiffoddwyr tân i Christchurch fel rhan o’r 62 yn nhîm chwilio ac achub y DU.

Meddai John Griffiths, y Cwnsler Cyffredinol:

"Mae pobl Christchurch yn fy meddwl yn wastad wrth iddyn nhw geisio dod dros y drasiedi erchyll hon.

"Mae gan Gymru frawdoliaeth arbennig â Seland Newydd, ac roedd yn anrhydedd bod yn y gwasanaeth coffa i gofio am y rheini a gollodd eu bywydau.

"Gobeithio y gall cymuned Christchurch deimlo rhyw gysur o wybod bod pobl ym mhedwar ban byd yn meddwl amdanyn nhw, a’u bod yn dod o hyd i’r nerth i gychwyn ailadeiladu eu bywydau."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Rhyngwladol

Tagiau

Rhyngwladol 28 Mawrth 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Tachwedd 2014
Ll M M I G S S
<< Hyd    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i