Cynhaliwyd y gwasanaeth yn Abaty Westminster y penwythnos hwn.
Ddydd Mawrth 22 Chwefror, tarodd daeargryn grymus ail ddinas fwyaf Seland Newydd. Cyrhaeddodd y daeargryn 6.3 ar raddfa Richter.
Bellach, amcangyfrifir bod 165 o bobl wedi colli eu bywydau yn y drasiedi sydd wedi effeithio ar holl gymuned Christchurch.
Anfonodd y Prif Weinidog eiriau o gydymdeimlad o Gymru i Brif Weinidog Seland Newydd, John Key, ar y pryd. Roedd y digwyddiad gymaint â hynny’n fwy dychrynllyd oherwydd ei fod yn dilyn y ddamwain ym mhwll glo Pike River, lle collodd 29 o lowyr eu bywydau.
Anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wyth o ddiffoddwyr tân i Christchurch fel rhan o’r 62 yn nhîm chwilio ac achub y DU.
Meddai John Griffiths, y Cwnsler Cyffredinol:
"Mae pobl Christchurch yn fy meddwl yn wastad wrth iddyn nhw geisio dod dros y drasiedi erchyll hon.
"Mae gan Gymru frawdoliaeth arbennig â Seland Newydd, ac roedd yn anrhydedd bod yn y gwasanaeth coffa i gofio am y rheini a gollodd eu bywydau.
"Gobeithio y gall cymuned Christchurch deimlo rhyw gysur o wybod bod pobl ym mhedwar ban byd yn meddwl amdanyn nhw, a’u bod yn dod o hyd i’r nerth i gychwyn ailadeiladu eu bywydau."











