Mae’r rheoliadau drafft a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn dechrau’r paratoadau ar gyfer y rownd nesaf o raglenni yn 2014-2020 ac yn sail ar gyfer trafodaethau mwy manwl ynghylch y blaenoriaethau buddsoddi yng Nghymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies AC:
“Rwy’n falch bod y rheoliadau’n cydnabod pwysigrwydd parhau i gefnogi rhanbarthau fel Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, sy’n dal i wynebu heriau economaidd a chymdeithasol hirdymor. Mae’r Cronfeydd Strwythurol wedi helpu i leddfu rhai o effeithiau gwaethaf y dirwasgiad yng Nghymru a bydd y rhaglenni newydd yn ein galluogi i barhau â’r gwaith o greu amgylchedd addas ar gyfer swyddi a thwf, gan helpu i drawsnewid ein cymunedau a gwella’r cyfleoedd i bobl ledled Cymru.
“Dros y misoedd nesaf, byddaf yn cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig eraill i ddylanwadu ar safbwynt negodi’r DU ac ar gyfeiriad polisi’r Cronfeydd Strwythurol. Byddaf yn mynd ati i sicrhau’r fargen orau bosibl i Gymru. Byddaf hefyd yn trafod ein blaenoriaethau ar gyfer rhaglenni’r dyfodol gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid ar draws Cymru i sicrhau bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd, gan rannu’r un amcanion a blaenoriaethau, er mwyn sicrhau twf call, cynaliadwy a chynhwysol.”
Mae disgwyl hefyd i reoliadau drafft y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) gael eu cyhoeddi’r wythnos nesaf, ac mae Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd wedi’i sefydlu i drafod a rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gellir manteisio i’r eithaf ar raglenni Ewropeaidd yn y dyfodol, er budd Cymru.
Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys arbenigwyr o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, a’r cadeirydd yw Mark Drakeford AC, sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgor Monitro’r Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol.
Dywedodd Alun Davies:
“Mae Cronfeydd Strwythurol yn bwysig iawn ar gyfer helpu pobl i gael swyddi a hyfforddiant. Maen nhw eisoes wedi helpu 29,000 o bobl i gael hyd i waith ac wedi cynorthwyo dros 6,000 o fusnesau i dyfu, ac mae’r rhaglenni datblygu gwledig yn hollbwysig i amaethyddiaeth, cefn gwlad ac ansawdd bywyd pobl yn ein hardaloedd gwledig. Bydd y Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd yn ystyried yr holl raglenni hyn gyda’i gilydd ac yn trafod sut y gellir gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael.”
Mae’n debyg na chaiff y dyraniadau cyllid terfynol eu cadarnhau tan 2013.











