Pwrpas y Llawlyfr Strydoedd yw diweddaru’r canllawiau ar gyfer dylunio strydoedd mewn ardaloedd preswyl. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gynaliadwyedd, cyfiawnder cymdeithasol a gwella amgylchedd adeiledig Cymru.
Heddiw, roedd y Gweinidog yn annerch seminar ar y Llawlyfr Strydoedd ym Mhrifysgol Caerdydd, oedd yn cael ei gadeirio gan y Sefydliad Priffyrdd a Chludiant a Chomisiwn Dylunio Cymru.
Meddai:
Cymuned gynaliadwy yw cymuned lle mae pobl am weithio, byw a mwynhau ynddi. Mae’r Llawlyfr hwn yn rhoi canllawiau ar sut i greu’r cymunedau hyn drwy gydbwyso, er enghraifft, anghenion gyrwyr, beicwyr, cerddwyr a phlant sy’n chwarae ar y stryd.
Gall dylunio da gryfhau cymuned drwy helpu pobl i ymdeimlo â’r ardal honno. Gall hyd yn oed leihau graffiti, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd.
Er bod y Llawlyfr yn delio ag anghenion gyrwyr, yn enwedig o ran diogelwch, mae hefyd yn annog llai o ddefnydd o’r car a mwy o ddefnydd o ffyrdd cynaliadwy o deithio ee cerdded, seiclo, a bysus.
Meddai’r Gweinidog:
Mae’n rhaid i ni sicrhau ei fod yn haws i bobl ddewis ffyrdd gwyrdd o deithio ac mae gan ddyluniad stryd ran bwysig i’w chwarae yn hyn. Os yw pobl yn gallu cerdded yn syth at safle bws yn ddiogel ac yn hwylus, mae’n fwy tebygol y byddant yn defnyddio’r bws ac mae hyn yn rhan hanfodol o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
20 Mehefin 2007











