Bu’r Gweinidog yn trafod wedi cyhoeddi’r gwaith ymchwil i’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau tai a’r dreth gyngor yng Nghymru.
Yn ôl y gwaith ymchwil, a gomisiynwyd gan y Gweinidog, er bod rhywfaint o ddatblygiadau da wedi bod o ran cynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau ledled Cymru, gellid gwneud mwy i’w gwneud yn haws i bobl hawlio.
Wrth ymweld â Chyngor Bro Morgannwg (dydd Llun 6 Hydref) i weld sut y maent yn mynd at i gynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau, dywedodd y Gweinidog:
Yn ystod y cyfnod anodd hwn yn economaidd, mae’n bwysig iawn bod pobl yn gallu hawlio budd-daliadau yn gyflym ac yn hawdd, ac nad ydynt yn cael eu llesteirio gan y broses hawlio. Mae gwneud yn siŵr bod teuluoedd yn hawlio’r budd-daliadau sy’n ddyledus iddynt yn rhan bwysig o’n hymdrechion i gadw at ein hymrwymiad yn Cymru’n Un i fynd i’r afael â thlodi pensiynwyr a phlant.
Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i awdurdodau lleol, gan gynnwys yr angen i sicrhau bod eu ffurflenni hawlio a’u canllawiau mor glir ac mor syml â phosibl, a bod staff yn cael eu hyfforddi i helpu hawlwyr trwy’r broses.
Dylai gwefannau awdurdodau lleol gynnwys gwybodaeth ddwyieithog, ddealladwy, syml a chyfredol sy’n hawdd dod o hyd iddi. Dylent hefyd sicrhau bod ffurflenni’n cael eu hanfon ar fyrder wrth dderbyn cais amdanynt dros y ffôn, yn bersonol, neu dros y rhyngrwyd. Mae rhai awdurdodau’n perfformio’n well yn y maes hwn, a dylai pob awdurdod edrych ar eu systemau eu hunain i wneud yn siŵr eu bod yn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl i’w preswylwyr lleol.
Cyhoeddodd y Gweinidog £3 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol yn gynharach eleni i gynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau tai a’r dreth gyngor.
Mae rhwystrau eraill yn cynnwys diffyg gwybodaeth am fudd-daliadau, hawlwyr yn ofni y byddant yn colli budd-daliadau eraill, neu’n gorfod derbyn gofal, anawsterau o ran rhannu gwybodaeth rhwng y llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol, a chynnwys arbedion pensiwn yn y trothwy cynilo.
Dywedodd y Gweinidog bod rhesymau amrywiol pam nad oedd pobl yn hawlio:
Er y gallai diffyg gwybodaeth fod yn rheswm dros beidio â hawlio, yn aml iawn mae pobl yn ystyried bod hawlio budd-daliadau yn broses gymhleth, ymwthiol, ac nad yw’n werth y drafferth. Golyga hyn nad yw nifer o’r un rhan o dair o gartrefi sydd â hawl i dderbyn cymorth yn hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt.
Er mwyn dileu’r rhwystrau hyn, mae angen i awdurdodau lleol a’r Llywodraeth weithredu i’w gwneud yn haws i hawlio. Rwyf mewn cysylltiad â Gweinidogion y DU i bwyso am newidiadau i’r system fudd-daliadau fel bod mwy o hawl awtomatig i fudd-daliadau, ac i gynyddu’r trothwyon enillion a chynilion.
Gall sefydliadau gwirfoddol helpu hefyd. Maent yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau a chymorth ddefnyddiol yn aml i’r rhai mwyaf anghenus a bregus yn ein cymunedau. O ganlyniad, maent mewn sefyllfa dda i ddeall anghenion lleol ac i helpu pobl ddeall yr hyn sy’n ddyledus iddynt.
6 Hydref 2008











