Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Penodi Aelodau i’r Comisiwn Ffiniau

Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons, wedi cyhoeddi bod dau benodiad newydd i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru.
Dydd Llun 23 Mehefin 2008

Yn dilyn ymarfer recriwtio, penodwyd John Paul Wood yn aelod o 1 Mai 2008 ymlaen, a bydd yn cymryd drosodd fel cadeirydd o 1 Ionawr 2009, am gyfnod o bum mlynedd.

Penodwyd David John Bader yn aelod o 1 Ionawr 2009, am gyfnod o bum mlynedd.

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Lywodraeth Leol yn gorff annibynnol sy’n gyfrifol am arolygu’r trefniadau etholiadol yng Nghymru ac am wneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru er budd llywodraeth leol effeithiol.

Mae’r cadeirydd yn cael £12,907.68 y flwyddyn gan adlewyrchu ymrwymiad amser o 4 diwrnod y mis.  Mae aelodau’n cael £9,492.48 y flwyddyn gan adlewyrchu ymrwymiad amser o 4 diwrnod y mis.

Meddai Dr Gibbons:

Rwy’n falch bod Mr Wood a Mr Bader wedi cytuno i ymuno â Chomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru. Dylai’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol ddechrau ar ei waith yn ystod y cylch nesaf o adolygiadau etholiadol yn ddiweddarach eleni, a bydd y sgiliau a’r profiadau sydd gan Mr Wood a Mr Bader i’w cynnig yn gaffaeliad i’r Comisiwn yn ei waith.

Gwnaed y penodiadau hyn yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus. Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses o ddewis. Fodd bynnag, yn unol ag argymhelliad gwreiddiol adroddiad Nolan, mae’n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y rheini sy’n cael eu penodi – nid yw’r naill na’r llall wedi ymwneud ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Nodiadau

Mae John Paul Wood wedi ymddeol o fod yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru.  Dechreuodd ei yrfa yn Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ym 1976.  Cafodd ei ethol i wasanaethu ar Bwyllgor Cenedlaethol Cymdeithas Staff Prif Swyddogion yr Heddlu o 1999 nes iddo ymddeol yn 2006.  Mae’n ymgynghorydd rheoli erbyn hyn. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol ar Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac yn llywodraethwr ar Ysgol Gynradd y Creunant.

Mae David John Bader yn gyn Brif Weithredwr Tai Cymru ac roedd yn Gyfarwyddwr Adran Cyfiawnder ac Adfywio Llywodraeth Cynulliad Cymru nes iddo ymddeol yn 2005. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Ymddiriedolaeth Tai Cymunedol Somer, ac yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn gyfrifol am benodi cadeirydd a hyd at 4 aelod i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru a sefydlwyd dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Llywodraeth leol 23 Mehefin 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i