Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn cyhoeddi mwy o help gyda threthi busnes

Heddiw (1 Ebrill 2009), cyhoeddodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons, fesurau newydd i helpu busnesau Cymru gyda’u trethi busnes.
Dydd Mercher 01 Ebrill 2009

Bydd y mesurau hyn yn caniatáu i fusnesau ledled Cymru ddewis cyfyngu’r cynnydd yn eu trethi busnes i ddau y cant eleni, yn lle’r pump y cant a oedd wedi’i fwriadu’n wreiddiol. Bydd y tri y cant sy’n weddill i’w dalu dros y ddwy flynedd nesaf.

Yn sgil y newidiadau hyn, gallai hyd at 100,000 o fusnesau yng Nghymru fanteisio ar y cyfle i arbed cyfanswm o dua £24 miliwn eleni.

Mae’r cynigion hyn yn ychwanegol at y £20m yng nghymorth y dreth ar gyfer busnesau bach a’r cynnydd dros dro yng nghymorth y dreth ar eiddo gwag yn 2009-10 a ddaeth i rym heddiw.

Meddai’r Gweinidog:

Bydd y newidiadau a gyhoeddais heddiw yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fusnesau ledled Cymru trwy ganiatáu iddynt ohirio talu rhan o’u trethi busnes. Bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt gadw’u pennau uwchben y dŵr yn ystod y trafferthion economaidd presennol.

Rydym wedi rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan ynghylch y cynnydd mewn trethi busnes, ac mae cyhoeddiad ddoe’n golygu y gallwn ni nawr gymryd camau sy’n fforddiadwy ac sydd heb orfod cael eu hariannu ar draul gwasanaethau hanfodol eraill.

Ni fydd y penderfyniad yn effeithio ar y cymorth cyffredinol a fydd ar gael i awdurdodau lleol eleni. Hefyd ni fydd yn rhaid i i awdurdodau lleol anfon biliau newydd at fusnesau yn eu hardal yn sgil y newidiadau.

Dylai’r rheoliadau angenrheidiol ar ganiatáu’r newidiadau fod mewn grym erbyn mis Gorffennaf. Bydd yr awdurdodau’n ysgrifennu at yr holl fusnesau yn eu hardal i gynnig yr opsiwn o ohirio taliadau. Yn y cyfamser, bydd angen i fusnesau barhau i dalu eu trethi busnes yn y ffordd arferol.

Bydd trafodaethau am fanylion y trefniadau nawr yn cael eu cynnal gyda’r Trysorlys, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a busnesau Cymru.

1 Ebrill 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Busnes a'r economi

Tagiau

Llywodraeth leol 01 Ebrill 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i