Mae Cyngor Sir Powys yn gefnogol iawn o gynllun grant cyfleusterau cyhoeddus gwerth £385 mil Llywodraeth y Cynulliad. Mae deg busnes yn y sir eisoes wedi cytuno i gymryd rhan, ac mae nifer o fusnesau eraill wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â’r cynllun.
Meddai Dr Gibbons:
“Mae’n bwysig bod toiledau cyhoeddus glân ar gael yn hwylus i bawb. Rwy’n ddiolchgar am gymorth a chefnogaeth Cyngor Sir Powys o ran annog busnesau i gymryd rhan yn y cynllun.
“Rwy’n canmol Siop Coedydinas am ymuno â’r cynllun. Rwy’n siŵr y bydd y trigolion lleol a’r ymwelwyr â’r Trallwng yn gwerthfawrogi cael defnyddio cyfleusterau’r siop. Rwy’n gobeithio y bydd y siop hefyd ar ei hennill o gael mwy o bobl yn dod trwy’r drysau a byddwn i’n annog busnesau lleol eraill i ddilyn eu hesiampl.”
Meddai’r Cynghorydd Geraint Hopkins, yr Aelod o Fwrdd Cyngor Sir Powys sy’n gyfrifol am Wasanaethau Lleol:
“Trwy weithio gyda busnesau lleol, gallwn ni sicrhau bod mwy o doiledau diogel a glân ar gael yn hwylus ledled y sir diolch i’r cynllun pwysig hwn.”
Mehefin 18 2009











