Bydd y Bwrdd yn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar adfer Cyngor Sir Ynys Môn o’r problemau difrifol y mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi’u nodi mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Dr Gibbons:
“Rwy’n falch iawn fy mod wedi llwyddo i benodi'r Athro Elan Closs Stephens CBE i gadeirio’r Bwrdd adfer ac i benodi Sue Essex, Bill Horne, Richard Parry Hughes, Dr Zoë Radnor, Mel Usher a Graham Williams fel aelodau o’r Bwrdd.
“Mae hwn yn Fwrdd o’r radd flaenaf. Mae gan aelodau’r bwrdd gryn ddealltwriaeth o broblemau rheoli yn y sector cyhoeddus ac mae’r ddealltwriaeth honno’n deillio o ystod eang o safbwyntiau. Bydd eu harbenigedd yn ein cynorthwyo’n fawr i sicrhau adferiad cyflym a chynaliadwy rydym i gyd yn dymuno ei gael.
“Hefyd, rwy’n hapus iawn bod tri o aelodau’r Bwrdd - Elan, Richard a Graham - yn siarad Cymraeg yn rhugl. Rwy’n cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg o fewn y Cyngor ac ar yr ynys a bydd y penodiadau hyn yn sicrhau bod unrhyw un sy’n dymuno trafod materion gydag aelod o’r Bwrdd trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu gwneud hynny.
“Rôl cynghori fydd gan y Bwrdd a bydd yn rhaid i’r Cyngor weithio gyda’r Bwrdd Adfer. Bydd yn monitro hynt y Cyngor tuag at adferiad ac yn unol â hynny, yn cysylltu â mi. Hefyd, gall y Bwrdd Adfer gynghori’r Cyngor ar gamau posibl y gellir eu cymryd. Fodd bynnag, mae’r cyfrifoldeb am adferiad yn disgyn ar ysgwyddau’r Cyngor.
Medi 16 2009











