Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwasanaethau lleol yn parhau i wella ond mae angen mwy o gysondeb

Heddiw, croesawodd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Lywodraeth Leol gyhoeddi’r data sy’n dangos gwelliant parhaus cyffredinol yng ngwasanaethau’r awdurdodau lleol yn ystod 2008-9.
Dydd Iau 01 Hydref 2009

Mae’r Bwletin, a gyhoeddwyd gan Uned Ddata Llywodraeth Leol, yn dangos, er bod y rhan fwyaf o wasanaethau llywodraeth leol yn gwella, bod gwaith i’w wneud o hyd i gael awdurdodau lleol i gynnig yr un math o berfformiad.

Meddai Dr Gibbons:

"Rwy’n falch iawn bod Bwletin eleni yn rhoi negeseuon positif ynghylch safon gwasanaethau awdurdodau lleol. Mae’r data yn dangos bod awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau o safon, a bod gwelliant o flwyddyn i flwyddyn yn y rhan fwyaf o’r gwasanaethau.

"Mae awdurdodau lleol wedi gwneud cynnydd da mewn nifer o feysydd allweddol gan gynnwys:

  • Cododd cyfraddau presenoldeb ysgolion am y tro cyntaf mewn sawl blwyddyn. Dangosodd 16 o awdurdodau welliant o rhwng 0.1% a 0.8% ond mae’n siom bod dau o’r awdurdodau oedd â’r cyfraddau isaf yn y flwyddyn ddiwethaf wedi gostwng ychydig mwy eleni.
  • Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sydd mewn gwelyau ysbytai gan nad oes unlle arall iddynt fynd gan na allant fyw’n annibynnol. Dangosodd Torfaen welliant o 14.3 fesul 1000 o’r boblogaeth 75 oed a throsodd, a gyda gostyngiad o 20.1 y flwyddyn flaenorol, mae hyn yn welliant sydd i’w groesawu’n fawr, o 46.8% yn 2006/7 i 12.4% yn 2008/9.
  • Mae cyfartaledd yr amser sy’n cael ei gymryd i gwblhau newidiadau i gartrefi pobl gyda Grantiau Cyfleusterau’r Anabl wedi gostwng 32% dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, mae’n amlwg yn bosibl i rai awdurdodau ddysgu gan eraill, gan bod yr amser ar gyfartaledd yn parhau i fod dros 2 flynedd mewn rhai ardaloedd.
  • Dengys y dangosyddion gwastraff welliant sylweddol dros y dair blynedd ddiwethaf. Rydym bellach yn ailgylchu neu’n compostio dros un rhan o dair o’r holl wastraff, ac mae’r gwastraff bioddiraddiadwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi wedi gostwng dros 10% yn y dair blynedd ddiwethaf. Mae hefyd yn dda i weld bod yr holl awdurdodau lleol ar waelod y raddfa ailgylchu wedi dangos rhywfaint o welliant y llynedd, a Caerdydd a Blaenau Gwent yn dangos gwelliant sylweddol.

"Fodd bynnag, er bod llawer o bethau i’w croesawu wrth i berfformiad barhau i wella, dengys y data bod amrywiadau sylweddol yn parhau ymysg gwasanaethau o fewn a rhwng awdurdodau. Dengys hyn lle mae angen mwy o gynnydd.

"Y flwyddyn nesaf, rwy’n bwriadu creu nifer fechan o fesurau perfformiad sy’n olrhain cyfraniad Cynghorau i flaenoriaethau allweddol Llywodraeth y Cynulliad. Rwy’n gobeithio y bydd canolbwyntio mwy ar ganlyniadau i ddinasyddion yn hytrach nag ar fesurau mewnbwn sy’n seiliedig ar adnoddau yn helpu inni fodloni’r her o flaenoriaethu adnoddau cyfyngedig. Ar yr un pryd bydd yn helpu inni ddarparu gwasanaethau i’r safon yr ydym ni a’r dinasyddion yn ei ddymuno."

Mae'r bwletin, Perfformiad Awdurdodau Lleol 2008-9 ar gael ynghŷd â'r data llawn o wefan yr Uned Data Llywodraeth Leol 

1 Hydref 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Llywodraeth leol

Tagiau

Llywodraeth leol 01 Hydref 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i